Mae Dr. Elin Royles a Dr. Huw Lewis wedi datblygu fframwaith i ddadansoddi’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ddatblygu polisïau iaith.
Yn eu cyfraniad i’r llawlyfr ar bolisi a chynllunio iaith, The Routledge Handbook of Language Policy and Planning, maent yn mynd i’r afael â dau ddull o bolisi cyhoeddus sef llywodraethu aml-lefel a sefydliadaeth newydd. Mae eu pennod ‘Governance, complexity and multi-level LPP’ yn datblygu fframwaith sefydliadol aml-lefel i ddadansoddi’n systematig y ffactorau sy’n dylanwadu ar ddatblygu polisïau iaith penodol.
Mae’r bennod yn mynd ymlaen i esbonio sut y gall y fframwaith egluro polisïau diweddar ynghylch ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol Ewropeaidd a’i botensial i ddadansoddi polisïau iaith eraill, fel dysgu ieithoedd tramor neu helpu mewnfudwyr i integreiddio iaith.
Dyma arolwg cynhwysfawr ac awdurdodol, yn cynnwys cyfraniadau gwreiddiol gan uwch ysgolheigion blaenllaw a sêr y dyfodol, sy’n rhoi sail ar gyfer ymchwil yn y dyfodol i bolisi a chynllunio iaith mewn cyd-destunau rhyngwladol, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
Darllenwch y bennod gyfan yma: The Routledge Handbook of Language Policy and Planning | Michele Gazzo (taylorfrancis.com)
Cysylltiadau
Dr Huw Lewis
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol,
Prifysgol Aberystwyth
hhl@aber.ac.uk
Dr Elin Royles
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol,
Prifysgol Aberystwyth
ear@aber.ac.uk