Ar ddydd Iau 16 Tachwedd 2023, cynhaliodd y Rhwydwaith Astudiaethau Sector Gwirfoddol ddigwyddiad i ystyried y ffordd y mae Sectorau Gwirfoddol Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael eu trafod a’u hymchwilio, ac a oedd hynny’n wahanol o’i gymharu â gweddill y DU.
Roedd Dr Amy Sanders yn un o’r panelwyr. Mae Dr Sanders yn academydd o Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) sydd yn rhan o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS).
Defnyddiodd Dr Sanders ei hymchwil presennol am swyddogaethau gwirfoddoli elitaidd o fewn elusennau Cymru (tîm ymchwil Aberystwyth: Jesse Heley a Flossie Caerwynt) a’i hymchwil ar sut mae cymdeithas sifil yn ymateb i boblyddiaeth a pholareiddio (tîm ymchwil Aberystwyth: Michael Woods, Rhys Dafydd Jones, Flossie Caerwynt).
Gwnaeth hefyd ddefnydd helaeth o’i hymchwil flaenorol am y berthynas rhwng y sector gwirfoddol a Llywodraeth Cymru. Mae’r tri phrosiect ymchwil yn cael eu hariannu fel rhan o’r ymchwil cymdeithas sifil a ddatblygwyd gan WISERD.
Cadeiriwyd y digwyddiad gan Dr Carol Jacklin-Jarvis, Cadeirydd y Rhwydwaith Astudiaethau Sector Gwirfoddol (VSSN) a Dr Jurgen Grotz, un o ymddiriedolwr VSSN ac a drefnodd y digwyddiad. Roedd aelodau eraill y panel yn cynnwys yr Athro Carl Milofsky sy’n athro emeritws mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bucknell, a golygydd y cyfnodolion Nonprofit and Voluntary Sector Quarterly a’r Voluntary Sector Review; Yr Athro Dirk Schubotz o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Queen’s Belfast; Dr Nick Acheson, sydd wedi cyhoeddi’n eang ar bwnc y sector gwirfoddol yng Ngogledd Iwerddon, Iwerddon ac yng Nghanada. Mae’n aelod o Fwrdd y mudiad Volunteer Now; Denise Hayward sef Prif Weithredwr Volunteer Now; Celine McStravick sef Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Gogledd Iwerddon (NICVA). Roedd Dr Christala Sophocleous o Adran Polisi Cymdeithasol Prifysgol Abertawe hefyd yn aelod o’r panel. Cyfrannodd hi o flaen llaw oherwydd amgylchiadau annisgwyl.
Cytunodd y Panel bod Sectorau Gwirfoddol Cymru a Gogledd Iwerddon yn gweithredu mewn cyd-destunau sy’n wahanol yn sylfaenol i’r cyd-destun yn Lloegr. Mae gan hyn oblygiadau pwysig o ran polisi ac ymarfer nad ydynt, ar hyn o bryd, wedi eu deall yn drylwyr ac efallai nad yw’r polisi ledled y DU yn adlewyrchu hyd yma unrhyw ganfyddiadau sydd mewn bodolaeth. Ar ben hynny, er y nodwyd rhai pethau oedd yn gyffredin rhwng elfennau cyfatebol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, roedd gwahaniaethau amlwg yn y modd y mae’r sector gwirfoddol wedi cael ei lunio gan ddatblygiadau gwleidyddol cyfoes.
Mae disgwyl i’r recordiad o’r drafodaeth fod ar gael ar wefan VSSN. Roedd y digwyddiad hwn yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau VSSN ‘Llunio Rhwydweithiau o Gysylltiadau Ymchwil Astudiaethau Sector Gwirfoddol o fewn pedair gwlad y DU ac ar draws y DU’. Bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal yng Ngogledd Iwerddon, yn y Gwanwyn, 2024.
Cyswllt
Dr Amy Sanders ams48@aber.ac.uk