Cefnogir ein hymchwil gan brif gyrff ariannu ymchwil gan gynnwys Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd a Rhaglen Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r ganolfan yn cynnal y prosiectau ymchwil canlynol.


Dyfodol Cyfansoddiadol

Mae’r prosiect ‘Dyfodol Cyfansoddiadol’ wedi’i leoli ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn cael ei arwain gan Dr Anwen Elias yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Mae’r prosiect yn arbrofi gyda dulliau creadigol arloesol – megis gwneud collage a ffotograffiaeth – er mwyn dechrau sgyrsiau newydd am lywodraethu a newid cyfansoddiadol yng Nghymru a thu hwnt. Darllenwch fwy am y prosiect Dyfodol Cyfansoddiadol fan hyn. Darllenwch fwy am Dyfodol Cyfansoddiadol fan hyn.


ESRC logo

Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru – Haenu Dinesig ac Atgyweirio Sifil

Mae WISERD/Cymdeithas Sifil yn rhaglen ymchwil rhyngddisgyblaethol a rhyng-sefydliadol a ariennir gan ESRC. Mae’n ceisio trawsnewid ein dealltwriaeth o sut mae ffurfiau o allgáu ac ehangu dinesig, a cholledion ac enillion dinesig, yn effeithio ar gymdeithas ddinesig a’r potensial i sefydliadau cymdeithas sifil chwarae rôl allweddol ym maes atgyweirio sifil. Drwy gynhyrchu tystiolaeth empirig newydd a dadansoddiadau, bydd y rhaglen yn mynd i’r afael â nifer o’r prif heriau sy’n wynebu cymdeithas, fel anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd, polareiddio ac ymddieithrio gwleidyddol, mudo ac amlddiwylliannaeth, deinameg newidiol gwaith a’r  economi ‘gig’, ac effaith arloesiadau technolegol newydd. I gael rhagor o wybodaeth gweler: https://wiserd.ac.uk/cy/newid-safbwyntiau-ar-haenu-dinesig-ac-atgyweirio-sifil/

Mae ymchwilwyr CGChC yn arwain ar brosiectau ymchwil penodol yn y meysydd canlynol:

Gwleidyddiaeth Bob Dydd Annibyniaeth 


IMAJINE

Mae IMAJINE yn brosiect ymchwil newydd o bwys a arweinir gan ymchwilwyr yn CWPS i ymchwilio mewn i batrymau o anghydraddoldeb tiriogaethol yn Ewrop, sut mae’r rhain yn cael eu hadlewyrchu mewn canfyddiadau’r cyhoedd, llif mudo a’r defnydd gwleidyddol o fudiadau hunanreolaeth ranbarthol, abe all polisi ei wneud i hyrwyddo ‘cyfiawnder lleoliadol ‘. Mae’r prosiect 5 mlynedd yn cael ei ariannu fel rhan o’r Rhaglen Horizon 2020 yr UE ac yn cynnwys cydweithio gyda 15 o bartneriaid ar draws Ewrop. Darllenwch fwy am IMAJINE fan hyn.


Mae ymchwilwyr CGChC yn arwain ar brosiectau ymchwil penodol yn y meysydd canlynol:


Yn y Cyfweliad hwn, mae’r Athro Michael Woods yn trafod IMAJINE, y 15 partner ledled Ewrop, a’r fframwaith cyfiawnder gofodol a ddefnyddir i graffu ar anghydraddoldebau tiriogaethol yn Ewrop ac effaith polisïau cydlyniant yr Undeb Ewropeaidd.