Mae’r prosiect hwn yn archwilio sut mae pobl yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia yn meddwl am annibyniaeth.

Tra bod y rhan fwyaf o astudiaethau yn defnyddio data o arolygon i archwilio pam mae pobl yn cefnogi neu’n gwrthwynebu annibyniaeth, rydym ni’n mynd ati mewn ffordd wahanol. Drwy ddefnyddio methodoleg weledol fel ffotograffiaeth, a dilyn hynny gyda thrafodaeth mewn grwpiau ffocws a chyfweliadau gyda’r ffotograffwyr, gallwn ymchwilio’n ddyfnach i’r gwahanol ffactorau a phrofiadau sy’n dylanwadu ar agwedd unigolion tuag at y pwnc hwn.

Mae’n galluogi inni fynd y tu hwnt i feddwl am farn dinasyddion am annibyniaeth fel deuoliaeth syml (cefnogi neu wrthwynebu), a chael gwell dealltwriaeth o’r ffyrdd cynnil y mae unigolion yn gwneud synnwyr o newid cyfansoddiadol pellgyrhaeddol.

Rydyn ni’n trefnu arddangosfa o gasgliad o’r lluniau yn ystod 2024, ‘Pen Rheswm / Gwrando’r Galon: Darlunio’r Dyfodol – Ffotograffiaeth o Gymru, yr Alban a Chatalonia’.

Fe wnaethom dreialu’r fethodoleg hon gyda Chlwb Camera Aberystwyth, ac arddangos y lluniau yma.