Mudiadau annibyniaeth yn Ewrop: sut y maent yn dadlau achos annibyniaeth?

Ledled Ewrop dros y degawd diwethaf, daeth mudiadau sydd o blaid annibyniaeth yn fwyfwy amlwg a datblygodd rhai yn her difrifol i gyfanrwydd tiriogaethol a chyfansoddiadol eu gwladwriaethau. Ond, mae dadansoddiadau’r byd academaidd a’r cyfryngau yn tueddu i ganolbwyntio ar rai achosion uchel eu proffil, ac ar y cyfan nid yw amcanion a strategaethau gwleidyddol mudiadau sydd o blaid annibyniaeth yn cael eu deall yn dda.

Cyflawnodd y prosiect IMAJINE hwn astudiaeth fanwl o fudiadau annibyniaeth mewn naw achos yn Ewrop – Bafaria, Catalwnia, Corsica, Galicia, Lombardi, Sardinia, yr Alban, Veneto a Chymru – dros dri degawd (1990 -2021). Ym mhob achos, roedd y mudiadau a astudiwyd yn cynnwys cymysgedd o bleidiau gwleidyddol o blaid annibyniaeth a sefydliadau cymdeithas sifil. Archwiliwyd pa hawliau tiriogaethol a wneir gan y mudiadau hyn, a sut maent yn eu cyfiawnhau.

Mae ein hymchwil yn amlygu:

• i ba raddau mae galwadau am annibyniaeth yn ysgubo trwy Ewrop;

• effaith dirywiad yn amodau cymdeithasol-economaidd ar y math o ddadleuon a wneir o blaid annibyniaeth;

• amlygrwydd cynyddol yr achos democrataidd o blaid annibyniaeth, yn seiliedig ar ‘hawl’ ddemocrataidd dinasyddion i ddewis sut y cânt eu llywodraethu.

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am yr ymchwil a’i ganfyddiadau allweddol, neu i drafod sut y gall ein gwaith fod o fudd i’ch sefydliad.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Dr Anwen Elias: awe@aber.ac.uk


Yr ymchwil waelodol

Erthyglau Academaidd a gyhoeddwyd hyd yma

Anwen Elias & Nuria Franco-Guillén (2021), ‘Justifying secession in Catalonia: Resolving grievances or a means to a better future?‘, Politics & Governance, Cyf. 9, Rhif 4. 

Anwen Elias, Linda Basile, Nuria Franco-Guillén & Edina Szöcsik, E. (2021), ‘The Framing Territorial Demands (FraTerr) dataset: A novel approach to conceptualising and measuring regionalist actors’ territorial strategies‘, Regional & Federal Studies. 

Adroddiad gweledol

Mudiadau annibyniaeth yn Ewrop: Pa alwadau maent yn eu gwneud a sut maent yn eu cyfiawnhau? 


Adroddiadau Prosiect


Tîm

Dr Catrin Wyn Edwards

Dr Catrin Wyn Edwards
Gwleidyddiaeth Rhyngwladol
cwe6@aber.ac.uk

Dr Anwen Elias

Dr Anwen Elias
Gwleidyddiaeth Rhyngwladol
awe@aber.ac.uk

Dr Nuria Franco-Guillén

Dr Núria Franco-Guillén
Gwleidyddiaeth Rhyngwladol
nuf@aber.ac.uk

Dr Huw Lewis

Dr Huw Lewis
Gwleidyddiaeth Rhyngwladol
hhl@aber.ac.uk

Dr Elin Royles

Dr Elin Royles
Gwleidyddiaeth Rhyngwladol
ear@aber.ac.uk