Caiff cyfraniad mudiadau gwirfoddol at fynd i’r afael â pholareiddio mewn cymunedau lleol ei drafod gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn Aberystwyth fis nesaf. Bydd academyddion Prifysgol Aberystwyth o Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) yn cynnal symposiwm ar y cyd â phartneriaid o Rwydwaith Astudiaethau’r Sector Gwirfoddol ddydd Mercher 24 Mai yn…
Ymchwil ar gefnogaeth wledig i wleidyddiaeth aflonyddgar yn ennill grant Ewropeaidd sylweddol
Bydd y berthynas rhwng anfodlonrwydd etholwyr mewn ardaloedd gwledig a chefnogaeth i symudiadau gwleidyddol aflonyddgar yn Ewrop a’r Unol Daleithiau, yn destun astudiaeth o bwys gan athro o Brifysgol Aberystwyth, yn sgil dyfarnu grant uchel ei fri. Mae’r Athro Michael Woods wedi sicrhau cyllid o bron i €2.5 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC)…
Penodi academydd o Brifysgol Aberystwyth i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae’r Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth wedi’i benodi i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff statudol sydd â chyfrifoldeb am reoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy. Cyfrifoldeb y Bwrdd yw sefydlu gweledigaeth, cyfeiriad strategol a goruchwylio gwaith y corff. Mae Rhys Jones FLSW FAcSS yn Athro…
CWPS-WISERD Newyddlen Rhagfyr 2022
Cyfarchion y tymor a phob hwyl ichi dros y gwyliau gan dîm CWPS-WISERD! Mae ein hacademyddion wedi bod yn gweithio’n brysur trwy gydol y tymor newydd ac mae’n bleser gennym allu rhannu ein newyddlen gyda chi. Mae’n llawn anrhegion difyr ar drothwy’r gwyliau, gan gynnwys adroddiad CWPS ar gyfer 2021, digwyddiadau sydd ar y gweill,…
Sefyllfaoedd IMAJINE yn cael eu cyflwyno mewn Cynhadledd ar Bolisi Cydlyniant yr UE
Mae’r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig. Professor Michael Woods presented findings from the CWPS-WISERD-led Horizon 2020 project IMAJINE to the Third Joint EU Cohesion Policy Conference in Zagreb in November. Jointly organized by the European Commission Directorate-General for Regional and Urban Policy (DG-Regio), the Regional Studies Association and the Croatian Government, the…
Papur newydd ar ffoaduriaid, hil a chyfyngiadau cosmopolitaniaeth wledig yng Nghymru ac Iwerddon
Mae Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD, yr Athro Michael Woods, wedi cyhoeddi papur mynediad agored yn y Journal of Rural Studies sy’n edrych ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ymgartrefu mewn tair tref fechan yng Nghymru ac Iwerddon, yn cynnwys Aberystwyth a’r Drenewydd. Mae’r papur yn adeiladu ar erthygl gynharach a oedd yn cyflwyno’r syniad o gosmopolitaniaeth wledig…
Papur newydd yn amlygu effaith trawsnewid diwydiannol mewn ardaloedd gwledig
Mae papur newydd yn y Journal of Rural Studies yn adrodd ar ymchwil o brosiect Global-Rural yr ERC a arweiniwyd gan CWPS-WISERD i archwilio trawsnewidiad diwydiannol pentref yn nwyrain Tsieina yng nghyd-destun globaleiddio. Cyd-awduron y papur yw Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD, yr Athro Michael Woods, ynghyd â chyn-ôl-ddoethur CWPS-WISERD, Dr Francesa Fois (sydd bellach ym Mhrifysgol Salford), yr Athro Hualou Long…
Paned a 7 fideo blasus ynglŷn â’r sector gwirfoddol
Mae Dr Amy Sanders o Brifysgol Aberystwyth & Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) wedi creu cyfres fideo o fân gyflwyniadau, wedi’u hanelu at ymarferwyr sy’n rhannu ei hymchwil, ynglŷn â’r berthynas rhwng y sector gwirfoddol a Llywodraeth Cymru yn yr amser mae’n gymryd i gael paned o de. Bu cefndir Amy…
Trafod cryfhau democratiaeth yng Nghymru mewn cynhadledd am y cyfryngau
Bydd Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD yn trafod sut i gryfhau democratiaeth yng Nghymru mewn cynhadledd amlwg ynghylch y cyfryngau yr wythnos hon. Cynhelir ‘Lleisiau’r Dinasyddion, Newyddion y Bobl: Sicrhau bod y Cyfryngau’n Gweithio dros Gymru’ yn y Sefydliad Materion Cymreig yng Nghaerdydd ddydd Iau 17 Tachwedd, ac mae’n cynnwys areithiau o bwys gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau…
Digwyddiad Panel a rhwydweithio – Reimagining Welshness: New & Emerging Research
Bydd cyn Archesgob Caergaint Dr Rowan Williams a Phennaeth BBC Radio 1 Aled Haydn Jones ymysg y cyfranwyr yng Ngŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn. Yn rhan o’r ŵyl, mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru wedi trefnu trafodaeth banel sy’n dwyn y teitl ‘Reimagining Welshness: New & Emerging Research’. Bydd y digwyddiad yn dangos…