Professor Alan Renwick

Academydd blaenllaw i drafod diwygio democrataidd yn Aberystwyth

Bydd y rhagolygon ar gyfer diwygio gwleidyddol ym Mhrydain yn cael eu trafod ym Mhrifysgol Aberystwyth y mis hwn, pan fydd yr Athro Alan Renwick yn traddodi Darlith Flynyddol Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. Bydd y ddarlith, ‘Do the UK Public want Democratic Reform?’, yn cael ei chynnal ddydd Iau 25 Mai am 6yh ym Mhrif…

Ymchwil ar gefnogaeth wledig i wleidyddiaeth aflonyddgar yn ennill grant Ewropeaidd sylweddol

Bydd y berthynas rhwng anfodlonrwydd etholwyr mewn ardaloedd gwledig a chefnogaeth i symudiadau gwleidyddol aflonyddgar yn Ewrop a’r Unol Daleithiau, yn destun astudiaeth o bwys gan athro o Brifysgol Aberystwyth, yn sgil dyfarnu grant uchel ei fri. Mae’r Athro Michael Woods wedi sicrhau cyllid o bron i €2.5 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC)…

Penodi academydd o Brifysgol Aberystwyth i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae’r Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth wedi’i benodi i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff statudol sydd â chyfrifoldeb am reoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy. Cyfrifoldeb y Bwrdd yw sefydlu gweledigaeth, cyfeiriad strategol a goruchwylio gwaith y corff. Mae Rhys Jones FLSW FAcSS yn Athro…

Trafod cryfhau democratiaeth yng Nghymru mewn cynhadledd am y cyfryngau

Bydd Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD yn trafod sut i gryfhau democratiaeth yng Nghymru mewn cynhadledd amlwg ynghylch y cyfryngau yr wythnos hon. Cynhelir ‘Lleisiau’r Dinasyddion, Newyddion y Bobl: Sicrhau bod y Cyfryngau’n Gweithio dros Gymru’ yn y Sefydliad Materion Cymreig yng Nghaerdydd ddydd Iau 17 Tachwedd, ac mae’n cynnwys areithiau o bwys gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau…

Gwobr am ymchwil PhD ar Sefydliadu Cydraddoldebau

Dyfarnwyd Gwobr Goffa Audrey Jones i un o Gymdeithion Ymchwil Ôl-Ddoethurol Prifysgol Aberystwyth eleni.  Derbyniodd Dr Amy Sanders y wobr hon am ei hymchwil PhD, ar y teitl: Institutionalising Equalities? Exploring the Engagement of Equalities Organisations in the Welsh Third Sector-Government Partnership. Ar sail ei gwobr, gwahoddwyd Dr Sanders i gyflwyno papur yng Nghynhadledd flynyddol Cynulliad…

Dyfarnwyd gwobr y Papur Gorau i aelodau CWPS-WISERD yng Nghynhadledd Flynyddol y Sector Gwirfoddol ac Ymchwil Wirfoddol

Eleni, enillodd aelodau Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru-WISERD Dr Jesse Heley, Dr Flossie Kingsbury, Dr Sally Power, Dr Amy Sanders a Dr Najia Zaidi y wobr am y Papur Gorau yng Nghynhadledd Flynyddol y Sector Gwirfoddol ac Ymchwil Wirfoddol.  Dyfernir Gwobr Goffa Campbell Adamson bob blwyddyn am y Papur Gorau yng Nghynhadledd Flynyddol y Sector…