Gwobr am ymchwil PhD ar Sefydliadu Cydraddoldebau

Dyfarnwyd Gwobr Goffa Audrey Jones i un o Gymdeithion Ymchwil Ôl-Ddoethurol Prifysgol Aberystwyth eleni. 

Derbyniodd Dr Amy Sanders y wobr hon am ei hymchwil PhD, ar y teitl: Institutionalising Equalities? Exploring the Engagement of Equalities Organisations in the Welsh Third Sector-Government Partnership.

Ar sail ei gwobr, gwahoddwyd Dr Sanders i gyflwyno papur yng Nghynhadledd flynyddol Cynulliad Menywod Cymru, a elwid yn ‘Don’t Stay in Your Lane – Women’s Research Route to Gender Friendly Wales’. Cynhaliwyd y gynhadledd ar Fedi 17eg yng Nghwrt Insole yng Nghaerdydd. Cyflwynodd Dr Sanders ei phapur ‘Exploring equality strategies in policy-making in Wales and considering potential developments to further advance equality for women and girls’.

Trefnir y gwobrau blynyddol gan Gynulliad Menywod Cymru, ar gyfer ysgolheictod academaidd sy’n ceisio cynhyrchu deunydd empirig pwysig am brofiadau genethod a menywod.

Dyma’r hyn a ddwedir am y wobr:

“Y syniad sylfaenol yw helpu menywod i rannu canfyddiadau eu hymchwil a bod yn llwyfan er mwyn rhannu syniadau pwysig a allai lunio a llywio penderfyniadau ynghylch lobïo ac ymgyrchu. Roedd Audrey yn ymwybodol bod llawer gormod o ganfyddiadau ymchwil yn aros mewn traethodau hir a thraethodau ymchwil gyda dim ond ychydig rai breintiedig yn cael eu gweld!”

Roedd Audrey Jones (1929 – 2014) yn un o sylfaenwyr Cynulliad Menywod Cymru yn 1984 ac yn Gyn-gadeirydd ac Ysgrifenyddes tan 2014. Ar ôl ymddeol o swydd Dirprwy Bennaeth yn Ysgol Gyfun St Cyres ym Mhenarth, gweithiodd Audrey yn ddiflino dros achos hawliau, diogelwch a chydraddoldeb menywod o ran cyflog a chyfleoedd. Ei mab, Robert Jones, oedd yn cyflwyno’r dystysgrif i Amy.

Dywedodd Amy “Yn digwydd bod, Audrey Jones oedd y dirprwy bennaeth yn fy ysgol. Roedd yn ymddeol yn union wrth i mi gyrraedd i’r 6ed dosbarth. Dyna pam rwy’n arbennig o falch o fod yn derbyn ei gwobr dros 30 mlynedd yn ddiweddarach. Rydw i wedi wynebu rhwystrau fel menyw aeddfed yn gwneud PhD, felly mae’r math hwn o anogaeth wedi golygu llawer iawn i mi yn bersonol”.

Ymhlith derbynwyr eraill y wobr roedd Sara Cavill am ei gwaith ar iselder ôl-enedigol, Catherine Phillips am ei hymchwil i normau rhywedd mewn cysylltiad â dealltwriaeth pobl ifanc o berthnasoedd, Robin Andrews am ei harchwiliad o fonitro symptomau ar gyfer menywod sy’n mynd trwy’r menopos ac Anna Maria Sgueglia am ei dadansoddiad o fenywod ym maes cynllunio. Mae rhagor o wybodaeth am y wobr ar gael yma :   https://walesassemblyofwomen.co.uk/awards.html


Cysylltu

Dr Amy Sanders   ams48@aber.ac.uk