Bydd y rhagolygon ar gyfer diwygio gwleidyddol ym Mhrydain yn cael eu trafod ym Mhrifysgol Aberystwyth y mis hwn, pan fydd yr Athro Alan Renwick yn traddodi Darlith Flynyddol Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.
Bydd y ddarlith, ‘Do the UK Public want Democratic Reform?’, yn cael ei chynnal ddydd Iau 25 Mai am 6yh ym Mhrif Neuadd Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Campws Penglais. Mae mynediad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb, a gellir cadw lle yn https://cwps.aber.ac.uk/events
Mae’r Athro Renwick yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Uned y Cyfansoddiad yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac yn arbenigwr blaenllaw ar agweddau’r cyhoedd tuag at system wleidyddol Prydain.
Yn ei sgwrs, bydd yr Athro Renwick yn dadlau bod y cyhoedd ym Mhrydain yn poeni am gyflwr gwleidyddiaeth ac eisiau gweld newid. Bydd yn disgrifio canfyddiadau ymchwil sy’n datgelu anniddigrwydd dwfn â’r sefyllfa bresennol ac yn trafod pa ddiwygiadau a allai helpu i adfer hyder yn nemocratiaeth Prydain.
Dywedodd Dr Anwen Elias, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru:
“Bydd y ddarlith yn cynnig mewnwelediadau allweddol i’r math o system ddemocrataidd y mae pobl ei heisiau yn y DU, yn seiliedig ar drafodaethau’r Cynulliad Dinasyddion ar Ddemocratiaeth yn y DU; “Mae’r rhain yn amserol iawn o ystyried dadleuon parhaus ym mhob rhan o’r DU am gyflwr democratiaeth.”
Ymddangosodd y newyddion hwn yn wreiddiol ar wefan Prifysgol Aberystwyth.
Cysylltiadau
Alice Earp, Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth
ale@aber.ac.uk