Mae Brexit a phandemig Covid-19 wedi ailgynnau neu wedi ysgogi dadleuon newydd ynghylch sut mae awdurdod gwleidyddol yn cael ei drefnu o fewn ac ar draws gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig.
Er bod gan benderfyniadau ynghylch sut caiff awdurdod wleidyddol ei drefnu oblygiadau polisi pellgyrhaeddol i fywydau bob dydd neu ddinasyddion cyffredin, prin yw’r cyfleoedd i ddinasyddion feddwl am, a chyfrannu at, drafodaethau ar y cwestiwn hwn.
Nod y prosiect hwn yw dechrau sgyrsiau newydd am sut y dylem gael ein llywodraethu, fel sail i ddychmygu dyfodol cyfansoddiadol gwahanol. Mae’n archwilio ffyrdd arloesol o gynnwys dinasyddion mewn trafodaethau am newid cyfansoddiadol sy’n effeithio arnynt ond nad ydynt yn aml yn rhan ohonynt.
Mae yna wahanol elfennau i’r gwaith hwn:
Sgyrsiau creadigol am ddyfodol cyfansoddiadol – rydym wedi bod yn arbrofi gyda chreu collage a ffotograffiaeth fel ffordd o gael pobl i fyfyrio ar newid cyfansoddiadol.
Llywio gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru – rydym wedi tynnu ar arfer da rhyngwladol i fwydo i mewn i ddyluniad strategaeth ymgysylltu â dinasyddion y Comisiwn: