Mae tri bardd o Brifysgol Aberystwyth wedi cyfansoddi cerddi newydd mewn ymateb i hen lawysgrifau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n ymdrin â’r tywydd a newid hinsawdd.
Bydd y cerddi a’r llawsygrifau’n cael eu rhannu arlein a’u harddangos mewn ffenest siop wag yng nghanol tref Aberystwyth fel rhan o Ŵyl Ymchwil y Brifysgol sy’n dechrau heddiw (18 Hydref 2021).
Yr Athro Mererid Hopwood ac Eurig Salisbury o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a’r Aelod o Fwrdd Gweithredol Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Chymrawd Cyfnewidfa Greadigol Prifysgol Aberystwyth Athro Matthew Jarvis o Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol y Brifysgol sydd wedi cyfansoddi’r cerddi ar gyfer prosiect ‘Stryd y Beirdd’.
Ymateb mae englyn Mererid Hopwood i gerdd o’r Oesoedd Canol gan Dafydd ap Gwilym am yr iwrch, math o garw a oedd wedi diflannu o diroedd Cymru.
Gorlif Cantre’r Gwaelod o Lyfr Du Caerfyrddin sy’n cael sylw Eurig Salisbury yn ei englyn yntau.
Darn o Almanac o fis Hydref 1721 yn darogan y tywydd union dri chan mlynedd yn ôl sy’n ysbrydoli cerdd Matthew Jarvis.
Dywedodd yr Athro Mererid Hopwood:
“Fel aelodau o Gyfnewidfa Greadigol y Brifysgol rydym wrth ein bodd o gael cydweithio gyda’r Llyfrgell Genedlaethol a Chyngor Sir Ceredigion i geisio dod â gweithiau o’r gorffennol at sylw’r cyhoedd. Maen nhw’n berthnasol heddiw er eu bod yn ganrifoedd oed.”
Dywedodd yr Athro Matthew Jarvis, Cymrawd Cyfnewidfa Greadigol y Brifysgol:
Gall gwaith creadigol helpu pobl i weld y gorffennol mewn ffyrdd newydd, gan daflu goleuni newydd cyffrous ar ddeunydd sy’n dyddio nôl ganrifoedd. Mae hefyd yn ffordd werthfawr i ymateb i heriau ein hoes ni – fel newid hinsawdd. Gall ganiatáu inni ddychmygu’r dyfodol yr ydym o bosib am ei gyrraedd, a chysylltu’n emosiynol gyda’r dyfodol hwnnw.
Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Rydym fel Llyfrgell yn falch iawn o gael bod yn rhan o’r fenter hon. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’i chasgliadau yn berchen i bawb yng Nghymru ac yn adnodd gwerthfawr sy’n ein galluogi i ymateb yn bositif i heriau cyfoes fel newid hinsawdd. Mae’r arddangosfa hon yn enghraifft wych o allu’r gorffennol i ysbrydoli ac i’n cynorthwyo i siapio dyfodol gwell i bobl Cymru a’r byd.”
Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Economi ac Adfydwio:
“Rydym yn croesawu’r cyfle i weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth ar gynlluniau i gyflwyno ‘Stryd y Beirdd’ ar draws y dre, ac i hwyluso’r arddangosfa yma o farddoniaeth â’i neges bwysig sy’n berthnasol inni i gyd – sef bod newidiadau wedi digwydd ac yn parhau i ddigwydd oherwydd newid hinsawdd.”
Bydd arddangosfa ‘Stryd y Beirdd’ i’w gweld rhwng 18-31 Hydref 2021 yn ffenestri hen ystafelloedd arddangos y bwrdd nwy yng Nghoedlan y Parc, sy’n eiddo i Gyngor Ceredigion, yn ogystal ag ar lwyfannau digidol y Brifysgol.
Yn ogystal, bydd rhaglen arbennig ‘Talwrn y Tywydd’ yn cael ei recordio yn ystod yr Ŵyl a’i darlledu ar BBC Radio Cymru nos Fercher 27 Hydref, gyda thîm o staff presennol y Brifysgol yn cystadlu yn erbyn tîm o gyn fyfyrwyr.
Mae Gŵyl Ymchwil y Brifysgol yn cael ei chynnal yn rhad ac am ddim rhwng 18-22 Hydref, gan ganolbwyntio ar faterion newid hinsawdd yn yr wythnosau cyn Cynhadledd COP26 y Cenhedloedd Unedig.
Y Cerddi
‘Almanactually’
John Jones / teller of tall gales /
does your predictive text / guide all
the weathers of the heart?
Matthew Jarvis
Yr Iwrch
Dos di’r llatai distawaf – yn gennad
Dros y gân nas medraf,
Ac i glyw fy naear glaf
Rho alaw dy gri olaf.
Mererid Hopwood
Cantre’r Gwaelod
Mae’r ddalen â Seithenyn arni hi
Mor hen â’r traeth melyn,
Ond gŵr byw ydyw wedyn,
A gall fyw yn unrhyw un.
Eurig Salisbury
Cysylltiadau
Colin Nosworthy, Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth
ctn1@aber.ac.uk / 07496 914301