Latest Past Events

Eisteddfod – Yr Economi a’r Iaith Gymraeg: Arfor a thu hwnt

Y Lido

Sesiwn dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth yn trafod canfyddiadau gwerthuso rhaglen Arfor sy’n defnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a chamau nesaf agenda economaidd i gefnogi’r iaith Gymraeg yng Nghymru. Siaradwyr: Adam Price AS; Elen Bonner, Prifysgol Bangor; Llŷr Roberts, Mentera; Ioan Teifi, Wavehill gyda Dr Elin Royles, Prifysgol Aberystwyth yn cadeirio.

Eisteddfod – ‘Wedi’r Etholiad Cyffredinol’

Stondin Prifysgol Aberystwyth

Trafodaeth banel gyda chynfyfyrwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn dadansoddi canlyniadau a goblygiadau’r Etholiad Cyffredinol yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Cymru a thu hwnt.

Eisteddfod – Sgyrsiau creadigol am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru

Stondin Prifysgol Aberystwyth

Trafodaeth o dan arweiniad yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am sut all dulliau gweledol gyfrannu at y drafodaeth am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru a’r gwersi o Gymru ar gyfer y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt. (Cyflwynir yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu.)