Dyfarnwyd gwobr y Papur Gorau i aelodau CWPS-WISERD yng Nghynhadledd Flynyddol y Sector Gwirfoddol ac Ymchwil Wirfoddol

Eleni, enillodd aelodau Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru-WISERD Dr Jesse Heley, Dr Flossie Kingsbury, Dr Sally Power, Dr Amy Sanders a Dr Najia Zaidi y wobr am y Papur Gorau yng Nghynhadledd Flynyddol y Sector Gwirfoddol ac Ymchwil Wirfoddol. 

Dyfernir Gwobr Goffa Campbell Adamson bob blwyddyn am y Papur Gorau yng Nghynhadledd Flynyddol y Sector Gwirfoddol ac Ymchwil Wirfoddol (VSVR).  Mae hon yn gynhadledd a drefnir gan Rwydwaith Astudiaethau’r Sector Gwirfoddol (VSSN). Thema’r gynhadledd eleni oedd Politics, Partnerships, and Power: Raising Questions for Civil Society.

Penderfynir ar y dyfarniad gan ddau banel, panel Rhwydwaith Astudiaethau’r Sector Gwirfoddol yw un ac mae’r ail yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Cenedlaethol y Mudiadau Gwirfoddol (NCVO). Cyflwynwyd y wobr i Dr Sanders ar 15 Medi 2022 yn Sheffield gan Gadeirydd VSSN, Dr Jon Dean.  

Dyfarnwyd y wobr am bapur y gynhadledd: The privilege of virtue and the need for reward: An examination of patronage, elites and power relations within civil society.  

Mae’r papur hwn yn defnyddio ymchwil un o brosiectau cymdeithas sifil WISERD o’r enw Patronage, Elites and Power Relations. Mae’n rhan o’r archwiliad i haenu dinesig ac atgyweirio sifil gan Ganolfan Cymdeithas Sifil WISERD a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) . 

Mae rhagor o wybodaeth am y wobr a’r digwyddiad ar gael yma: https://www.vssn.org.uk/2022-voluntary-sector-and-volunteering-research-conference/


Cysylltu

Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru  cwps@aber.ac.uk   

Dr Jesse Heley   eyh@aber.ac.uk  

Dr Flossie Kingsbury   fck@aber.ac.uk  

Dr Sally Power   PowerS3@cardiff.ac.uk  

Dr Amy Sanders   ams48@aber.ac.uk  

Dr Najia Zaidi ZaidiSN@cardiff.ac.uk