Gweithdy – Sesiwn Ffotograffau o Annibyniaeth

Mae ein prosiect yn defnyddio ffotograffiaeth i ymchwilio i sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth. Gallwch gymryd rhan mewn sesiwn yn Galeri, Caernarfon ar ddydd Sadwrn ym mis Medi. Mae hyn yn rhan o brosiect ehangach sy’n ymchwilio i’r pwnc yma yng Nghymru, yr Alban a Chatalonia.

Cyn y sesiwn, tynnwch bedwar llun sy’n adlewyrchu sut rydych chi’n meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth. Yn y sesiwn, byddwch yn trafod y ffotograffau hyn mewn trafodaeth grŵp. Bydd paned a chinio ar gael! Fe hoffem wedyn ofyn i chi siarad mwy am eich lluniau a sut ydych chi’n meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth mewn cyfweliad ag aelod o dîm y prosiect. Byddwch yn derbyn arweiniad ymarferol a mwy o wybodaeth am y prosiect unwaith y byddwch wedi cofrestru.

Mae’r prosiect hwn yn amhleidiol ac nid yw’n hyrwyddo safbwynt penodol ar annibyniaeth. Rydym yn croesawu cyfraniadau pobl â safbwyntiau gwahanol ar annibyniaeth, yn ogystal â rhai nad ydynt wedi meddwl am y mater o gwbl.

Ariennir y prosiect gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac mae’n rhan o ymchwil Canolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil ESRC/WISERD, Prifysgol Aberystwyth.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein prosiect yma.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn y digwyddiad yma, os gwelwch yn dda ebostiwch Elin Royles, ear@aber.ac.uk.

Sesiwn Ffotograffau o Annibyniaeth

Date

Medi 30 2023
Expired!

Time

10:00 am - 12:00 pm

More Info

Cofrestrwch ymafee

Location

Galeri Caernafon
Caernafon
Cofrestrwch ymafee

0 thoughts on “Gweithdy – Sesiwn Ffotograffau o Annibyniaeth