Darlunio’r Dyfodol – Arddangosfa a thrafodaeth banel

Arddangosfa Ffotograffiaeth

Rhwng 11 a 5 bydd ein harddangosfa o ffotograffiaeth o’n prosiect sy’n defnyddio ffotograffau i ddeall sut mae pobl yn teimlo am annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia ar agor i’r cyhoedd. Mae mynediad am ddim I’r Senedd ac I’r arddangosfa hon ac nid oes angen archebu o flaen llaw. Mae mwy o wybodaeth am yr arddangosfa ar gael yma

Trafodaeth a derbyniad: Sgyrsiau creadigol am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru

Sut all dulliau gweledol gyfrannu at y drafodaeth am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru? Beth yw’r gwersi o Gymru ar gyfer y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt?

I gyd-fynd gyda’n harddangosfa ffotograffiaeth ‘Darlunio’r Dyfodol’, noddir ein trafodaeth banel a derbyniad gyda’r hwyr yn y Senedd rhwng 6 a 8 gan Elin Jones AS a Llywydd y Senedd. Bydd cyfle i weld yr arddangosfa dros ddiod a rhywbeth bach i’w fwyta. Ymysg y panelwyr fydd Will Hayward, Golygydd Materion Cymreig Wales Online, tim y prosiect a ffotograffwyr sydd wedi cyfrannu i’r prosiect. Croeso i bawb! Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y drafodaeth banel a’r derbyniad.

Date

Mai 22 2024
Expired!

Time

11:00 am - 8:00 pm
Register for the Panel Discussion

0 thoughts on “Darlunio’r Dyfodol – Arddangosfa a thrafodaeth banel