A yw cyhoedd y DU eisiau diwygio democrataidd?
Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno Darlith Flynyddol Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru 2023:
A yw cyhoedd y DU eisiau diwygio democrataidd?
Siaradwraig: Yr Athro Alan Renwick, Coleg Prifysgol Llundain
6yh – 8.00yh
Dydd Iau 25 Mai 2023
Wyneb yn wyneb: Prif Neuadd, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth
Am ddim
Traddodir Darlith Flynyddol Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru 2023 gan yr Athro Alan Renwick, Coleg Prifysgol Llundain a Dirprwy Gyfarwyddwr yr Uned Cyfansoddiad.
Yn y blynyddoedd diwethaf gwelwyd pryderon helaeth ymhlith academyddion a sylwebwyr am gyflwr democratiaeth yn y DU. Ond a yw’r cyhoedd ehangach yn rhannu’r pryderon hyn? Ateb cyffredin fu nad yw’r mwyafrif o bobl yn poeni am y drefn wleidyddol, cyhyd â bod y drefn yn darparu’r canlyniadau a ddymunant. Yn ôl ymchwil diweddar yn Uned Cyfansoddiad Coleg Prifysgol Llundain, dan arweiniad yr Athro Alan Renwick, canfyddwyd fod pobl yn poeni am gyflwr gwleidyddiaeth a’u bod nhw eisiau newid. Mae’r prosiect ‘Democracy in the UK after Brexit’, sy’n cynnwys arolygon a chynulliad o ddinasyddion, yn nodi anniddigrwydd dwfn ac eang am y status quo. Bydd y ddarlith hon yn ystyried canfyddiadau’r prosiect, ac yn edrych ar dystiolaeth ynglŷn â diwygiadau a allai fod o gymorth i adfer hyder yn y drefn ddemocrataidd
Ymunwch â ni am dderbyniad diodydd a chanapes o 18:00, bydd y ddarlith yn dechrau am 18:30.
Bydd sesiwn holi ac ateb. Darlith Saesneg fydd hon.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb, edrychwn ymlaen at eich gweld yno!
#DarlithFlynyddolCWPS
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch â cwps@aber.ac.uk.
0 thoughts on “A yw cyhoedd y DU eisiau diwygio democrataidd? ”