Arweinydd Thema
Rhys Dafydd Jones
rhj@aber.ac.uk
Mae Llywodraethu fel syniad ac ymarfer wedi dod i’r amlwg yn lle’r dull mwy traddodiadol o llywodraethu awdurdodol dros cenedl a’i phobl. Mae’n cyfeirio at y ffyrdd lluosog a lefelau (lleol, rhanbarthol, cenedlaethol, byd-eang) lle mae grym yn cael ei weithredu a’i arfer. Mae Llywodraethu hefyd yn cynnwys syniadau o gyfranogiad ac ymgysylltiad mwy gan y gymdeithas sifil a’r cyhoedd wrth wneud penderfyniadau a phrosesau democrataidd. Mae’n hyrwyddo dull sy’n annog dinasyddion a grwpiau i gymryd rhan mwy gweithredol ac ymarfer eu hawliau chyfrifoldebau yn eu cymunedau lleol ac yn y gymdeithas cyffredinol. Fodd bynnag yn aml sut mae llywodraethu a’i egwyddorion yn gweithio’n ymarferol yn bell o broses syml. Felly, er gwaethaf ei nodau cyfranogol a grymusol, mae’r syniad o lywodraethu a’r galwadau cynyddol gan gyfranogwyr a sefydliadau gwahanol, gwladwriaeth a di-wladwriaeth ar gyfer ‘ymgysylltu’ mwy a ‘chydweithio’ traws-sector hefyd wedi dod o dan graffu ysgolheigion yn ogystal ag ymgyrchwyr, ee, am esgeuluso neu gwneud yn anweledig ffurfiau eraill o weithgareddau cymdeithas sifil, am arwain at cyfundrefnau o archwilio ac atebolrwydd newydd a phroblematig, ac am guddio methiannau gwladwriaeth a’i berthynas newidiol gyda chymdeithas sifil.
Mae’r thema Llywodraethu, Cyfranogiad a Cymdeithas Sifil yn mynd i’r afael â rhai o’r materion hyn a chwestiynau eraill sy’n ymwneud â’r trafodaethau, gwleidyddiaeth, sefydliadau, ac arferion llywodraethu sy’n gweithredu ar wahanol lefelau yng nghyd-destun Cymru a thu hwnt. Bydd yn gwneud hynny drwy drefnu gweithgareddau academaidd amrywiol gan gynnwys seminarau, grwpiau darllen, fforymau trafod, ayyb.
Prosiectau cysylltiedig
IMAJINE– Mecanweithiau Integreiddiol ar gyfer trafod ag Anghydraddoldebau Tiriogaethol a Chyfiawnder Lleoliadol yn Ewrop (2017-2022, EU Horizon 2020) [Hyperlink to be added when available]
Heneiddio, Hamdden Difrifol a Cyfraniad yr Economi Hun – Pecyn GwaithWISERD/Civil Society 4.3 (2016-2018, ESRC)
Addysg, Iaith a Hunaniaeth – Pecyn GwaithWISERD/Civil Society 2.3 (2016-2019, ESRC)
Mudwyr, Lleiafrifoedd ac Ymrwymiad mewn Cymdeithas Sifil Lleol – Pecyn Gwaith WISERD/Civil Society 1.3 (2016-2018, ESRC)
Ailddiffinio Cymdeithas Sifil Lleol mewn Oes Cysylltedd Byd-eang – Pecyn Gwaith WISERD/Civil Society 1.2 (2016-2018, ESRC)