Mae ein hymchwil hyd yn hyn wedi adnabod rhai themâu allweddol o ran sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth:
Mae Cymru’n wahanol
Ar draws y tri achos, roedd cyfranogwyr yn aml yn sôn am yr ymdeimlad o arwahanrwydd oddi wrth weddill y wladwriaeth (y Deyrnas Unedig neu Sbaen). Ond mae’r ymdeimlad o hunaniaeth hefyd yn wahanol iawn ym mhob achos, yn ogystal ac ar draws achosion.
Yng Nghymru a Catalonia, i rai, roedd cysylltiad cryf rhwng hunaniaeth a iaith a diwylliant. Mynegwyd hyn drwy gyfeiriadau at symbolau diwylliannol, hanes a’r dirwedd, ac roedd ymdeimlad clir o berthyn i’r wlad a chariad tuag ati. Ategwyd y teimladau hyn gan ystod o wahanol brofiadau bywyd: roedd rhai wedi’u geni yn y gwledydd yma ac wedi byw yma am y rhan fwyaf o’u hoes, eraill wedi’u geni y tu allan i’r wlad neu wedi byw dramor. Soniodd y cyfranogwyr hefyd am yr iaith Gymraeg a’r Gatalaneg, a oedd yn cael eu ystyried fel pethau i’w dathlu a’u gwarchod.
I eraill yn y ddwy achos yma, roedd yr elfennau diwylliannol yma o hunanieth yn llai pwysig. Yn yr Alban, teimla rhai yn Albaneg ar sail gwerthoedd gwahanol; soniodd eraill am eu hunaniaeth Brydeinig neu hunaniaeth arall. Ar draws y tri achos, fe soniodd nifer am hunaniaeth a oedd yn agored i bawb a ddewisai fyw yn y wlad, heb ots am eu man geni na’u mam-iaith.
Ydy hunaniaeth benodol yn effeithio ar sut mae pobl yn meddwl am annibyniaeth?
Mae ein hymchwil hyd yma yn dangos nad yw’r ffaith bod yr ymwybyddiaeth o wahaniaeth yn golygu bod gan bobl yr un farn ynglŷn ag annibyniaeth. I lawer, nid yw’r ffaith eu bod yn teimlo bod eu gwlad yn wahanol yn bwysig wrth feddwl neu deimlo am y pwnc; mae ffactorau eraill yn bwysicach. I eraill, mae eu hunaniaeth yn eu harwain i feddwl mewn ffyrdd gwahanol am annibyniaeth: naill ai i’w gefnogi neu ei wrthwynebu. Nid oes perthynas hawdd rhwng natur a chryfnder hunaniaeth, a’r ffordd y maent yn meddwl a theimlo am annibyniaeth.
Ein Gorffennol/Ein Dyfodol
Mae ein hymchwil yn y tri achos yn dangos bod profiadau bywyd pobl, a’u barn am wleidyddiaeth a chymdeithas, yn dylanwadu ar y ffordd y maent yn meddwl am annibyniaeth. Mae hyn yn arwain pobl i feddwl yn wahanol iawn am annibyniaeth.
Yn y tri achos, mae rhai yn credu y bydd annibyniaeth yn trawsnewid cymdeithas ac yn creu dyfodol gwahanol a gwell. Mae rhai pobl hefyd yn credu mai annibyniaeth yw’r unig ffordd o wneud penderfyniadau sy’n ateb anghenion gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol y wlad, yn rhydd o ymyraeth y llywodraeth ganolog. Mae’r safbwyntiau hyn yn adlewyrchu rhwystredigaeth rhai cyfranogwyr gyda’r trefniadau gwleidyddol presennol, ac agwedd y wladwriaeth tuag at y genedl. Mae yna ymdeimlad hefyd o ddadrithiad gyda gwleidyddiaeth a gwleidyddion nad ydynt yn deall y genedl. Soniodd rhai am botensial economaidd annibynniaeth – a’r cyfle a ddeuai yn ei sgil i ymagwedd wahanol a mwy rhagweithiol at gyflawni twf economaidd.
I eraill, mae annibyniaeth yn risg enfawr. Roedd y bobl yma’n pryderu am oblygiadau annibyniaeth i’r economi ac i gymdeithas; soniodd nifer am eu pryder ynghylch meysydd polisi penodol o bwys iddynt megis iechyd a thwf economiadd. Roedd rhai hefyd yn amau a fyddai gwleidyddiaeth wahanol yn bosib yn sgil annibynniaeth.
I rai, roedd hanes eu gwlad hefyd yn dylanwadu ar eu syniadau am ei dyfodol. Yn aml, roedd canfyddiad o orthrwm diwylliannol ac ecsploetio economaidd yn gwneud i bobl uniaethu yn gryfach ag annibyniaeth. O’r persbectif yma, ystyrir annibyniaeth fel ffordd o symud ymlaen i’r gorffennol, ac o wneud pethau’n wahanol – ac yn well.
Pen Rheswm /Gwrando’r Galon
Roedd pobl yn y tri achos yn pwyso a mesur eu teimladau am annibyniaeth. Roedd gan rai farn glir o blaid neu yn erbyn annibyniaeth. Ond teimlai eraill yn fwy cymysg ac ansicr eu barn.
Soniodd rhai am eu gobaith y byddai annibyniaeth yn newid y wlad er gwell, ond hefyd am eu hamheuon a’r peryglon gwleidyddol ac economaidd posibl o fod yn wlad annibynol.
Yn aml, roedd tensiwn rhwng y ddwy farn yma, y pen a’r galon yn gwthio yn erbyn eu gilydd. Soniodd rai am eu hymrwymiad emosiynol i annibyniaeth – a hynny’n adlewyrchu eu hunaniaeth a’u balchder dros y genedl. Ond ar yr un pryd, roedd ymwybyddiaeth o’r penderfyniadau anodd y byddai’n rhaid eu gwneud. Roedd yr ansicrwydd ynghylch sut y gellid cyrraedd annibyniaeth, a’r ffaith ei bod hi’n anodd gwybod beth fyddai’r goblygiadau hir-dymor, yn arwain rhai i feddwl nad annibyniaeth yw’r ateb. Roedd eraill yn teimlo’n fwy parod i dderbyn y risgiau a’r ansicrwydd.
Trafod Annibyniaeth
Yn y tri achos, soniodd pobl am eu profiadau o drafod dyfodol cyfansoddiadol eu gwlad. Yn yr Alban a Chatalwnia yn arbennig, cyfeiriwyd at yr anhawster trafod y pwnc gyda theulu a ffrindiau: roedd hyn yn anodd o ganlyniad i wahaniaethau barn, ac yn aml fe osgowyd y pwnc yn gyfangwbl.
Eglurodd eraill eu bod yn rhwystredig nad oedd modd cael dadl agored a chytbwys am annibyniaeth. Roedd rhai yn beio’r gwleidyddion a’r cyfryngau am hyn: roeddent yn teimlo fod y pwnc yn cael ei gam-gyflwyno, a bod tuedd i or-symleiddio o blaid neu yn erbyn annibyniaeth.
Un broblem yw’r diffyg gwybodaeth gwrthrychol am annibyniaeth, y manteision a’r anfanteision. Pwy gellid ymddyried ynddynt i rannu gwybodaeth niwtral am y goblygiadau i’r dyfodol?
Yng Nghatalonia, bu tipyn o drafod ar y broses o gynnal refferendwm yn 2017. Roedd rhai yn rhwystredig gydag ymateb gwladwriaeth Sbaen i’r refferendwm, ac yn benderfynol o barhau i ymgyrchu dros annibynniaeth. Ond roedd eraill wedi’u siomi gyda’r broses – ac yn arbennig gydag ymwrthod gwladwriaethau eraill a’r Undeb Ewropaidd i roi pwysau ar wladwriaeth Sbaen i ganiatau’r refferendwm. Soniodd nifer eu bod wedi laru gyda chyflwr y drafodaeth erbyn hyn, yn ogystal a strategaeth y pleidiau gwleidyddol o blaid annibynniaeth.
Cafodd y profiad yma ddylanwad wahanol ar wahanol bobl: roedd rhai yn parhau i fod yn gefnogwyr brwd dros annibynniaeth i Gatalonia, ond roedd eraill wedi cael digon o’r pwnc. Cafwyd teimladau tebyg yn yr Alban. Mae rhai yn glir fod angen parhau i ymgyrchu am ail refferendwm ar annibyniaeth; nid yw eraill yn teimlo fod hyn bellach yn flaenoriaeth.