Yng nghyd-destun dadleuon am ddyfodol cyfansoddiadol, mae’r prosiect yma yn defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo ynglŷn ag annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalonia, a sut y caiff hyn ei ffurfio gan brofiadau eu bywyd.
I’r cenhedloedd hyn, byddai annibyniaeth yn golygu gadael y wladwriaeth maen nhw’n perthyn iddi ar hyn o bryd (y Deyrnas Unedig a Sbaen) a dod yn wladwriaeth annibynnol.
Mae gwaith academaidd blaenorol sydd wedi astudio agweddau pobl tuag at annibyniaeth wedi canolbwyntio ar geisio deall pam fod pobl yn penderfynu cefnogi neu wrthwynebu annibyniaeth. Ychydig o ymchwil sy’n bodoli yn ceisio egluro barn y cyhoedd ar fater annibyniaeth. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith sydd wedi ei gynhyrchu yn defnyddio data arolygon, lle gofynnwyd i bobl sut y byddent yn pleidleisio pe cynhelid refferendwm ar annibyniaeth, neu lle gofynnwyd am ddewisiadau unigol ar ôl cynnig rhestr o opsiynau cyfansoddiadol gwahanol, er enghraifft a fyddai’n well ganddynt ranbarth gyda phwerau cyfyngedig dros feysydd polisi penodol, rhanbarth gyda chryn dipyn o bwerau (e.e. dros blismona neu fewnfudo), neu wladwriaeth annibynnol. Mae’r astudiaethau hyn wedi canolbwyntio ar y ffordd mae nodweddion pobl (fel oedran, rhyw a dosbarth cymdeithasol) neu eu hagweddau (fel pa blaid wleidyddol maent yn eu cefnogi, neu sut maent yn diffinio eu hunaniaeth) yn llywio eu barn am annibyniaeth. Mae gwaith o’r fath yn arwain at gasgliadau ynghylch pa fath o nodweddion sy’n gwneud pobl yn fwy tebygol o gefnogi neu wrthwynebu annibyniaeth mewn gwahanol achosion. Fodd bynnag, mae anghytundeb ynghylch y ffactorau sy’n ysgogi’r gefnogaeth boblogaidd i annibyniaeth. Er enghraifft, pa mor bwysig yw hunaniaeth genedlaethol, cwynion (grievances), rhagolygon economaidd neu les neu siarad iaith ranbarthol? Nid yw data’r arolygon sy’n sail i’r dadansoddiadau hynny yn esbonio chwaith sut mae bywydau bob dydd dinasyddion yn effeithio ar eu profiad ac ar y ffordd y maent yn gwneud synnwyr o annibyniaeth.
Mae’r prosiect hwn yn mynd i’r afael â’r mater mewn ffordd wahanol. Mae’n ceisio mynd y tu hwnt i’r ystyriaeth ynglŷn ag annibyniaeth yn nhermau a fyddai pobl yn ei gefnogi neu’n ei wrthwynebu mewn refferendwm, drwy ymchwilio i feddyliau a theimladau pobl am y pwnc. Beth sy’n bwysig i bobl pan fyddant yn meddwl am annibyniaeth? Pa agweddau o’u bywydau bob dydd a’u profiadau bywyd sy’n dylanwadu ar eu barn ynglŷn â’r ffordd y caiff eu gwlad ei llywodraethu yn y dyfodol?
Er mwyn ceisio datblygu trafodaethau amgen ar y pwnc a chael gwell dealltwriaeth o feddyliau pobl a’r hyn sy’n dylanwadau ar eu ffordd o feddwl am y mater hwn, mae’r prosiect yn defnyddio ffotograffiaeth fel sail i gychwyn sgyrsiau am annibyniaeth. Rydym wedi cydweithio â chlybiau ffotograffiaeth a cholegau sy’n cynnig ffotograffiaeth fel rhan o’u cyrsiau, pobl sy’n diddori mewn ffotograffiaeth, yn yr Alban, Catalonia a Chymru. O ran y ffordd roedd y grwpiau’n cymryd rhan, yn gyntaf gofynnwyd i’r cyfranogwyr dynnu lluniau yn dangos y ffordd y maent yn meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth. Yna cynhaliwyd cyfarfod o’r grŵp lle’r oedd y cyfranogwyr yn rhannu eu cyfres o 4 llun ac yn egluro eu rhesymau dros dynnu’r lluniau hynny, yr hyn roeddent eisiau ei fynegi a’i ddal. Yn olaf, gwahoddwyd y cyfranogwyr i gymryd rhan mewn cyfweliadau unigol manwl er mwyn manylu ar y syniadau a’r profiadau bywyd oedd yn dylanwadu ar y delweddau.
Tynnwyd y lluniau yn yr arddangosfa hon gan Glwb Camera Aberystwyth. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu parodrwydd i gydweithio ar y prosiect ac am roi eu caniatâd i ni gael dangos eu delweddau yn yr arddangosfa hon.
Mae’r prosiect yn un amhleidiol. Mae’n croesawu cyfraniadau gan gyfranogwyr â safbwyntiau gwahanol ac nid yw’n hyrwyddo safbwynt penodol ar annibyniaeth. Mae’n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, fel rhan o Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil ESRC/WISERD.
Dyma’r ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth sy’n arwain y prosiect: Anwen Elias, Elin Royles, Núria Franco-Guillén a Rhys Jones.