Dr Jeremy Evas 

Jeremy Evas yw Pennaeth Prosiect 2050 yn Llywodraeth Cymru. Cyn hyn roedd yn Bennaeth Hybu’r Gymraeg a Newid Ymddygiad yn Llywodraeth Cymru ac yn ddarlithydd mewn polisi a chynllunio iaith yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Bu hefyd yn Gyfarwyddwr Strategol Comisiynydd y Gymraeg, ac yn Gyfarwyddwr Polisi a Chynllunio Corpws ym Mwrdd yr Iaith Gymraeg gynt. Ei brif ddiddordebau yw canfod a gweithredu sbardunau ymddygiadol ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Mae wedi goruchwylio traethodau doethuriaethol ar saernïo dewis iaith, awtomeiddio cyfieithu, a seicoleg ymddygiadol (fel y’i cymhwysir i ryngweithio rhwng cyfrifiaduron a bodau dynol). Mae hefyd wedi cyhoeddi ymchwil ar y ffactorau sy’n effeithio ar drosglwyddo’r Gymraeg rhwng cenedlaethau. Cwblhaodd ei ddoethuriaeth Rhwystrau ar Lwybr Dwyieithrwydd, o dan oruchwyliaeth yr Athro Colin H. Williams yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn 1999.

Yn Llywodraeth Cymru, mae’n gyfrifol am raglenni i gynyddu’r defnydd anffurfiol o’r Gymraeg mewn plant oedran ysgol, trosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd, technoleg a’r Gymraeg, y Gymraeg yn y sector preifat ac agweddau ar y Gymraeg fel iaith gwaith. Mae’n gweithredu rhaglen Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog ar y cyd ag Academi Wales ac mae’n hwylusydd ar Ysgol Haf a Gaeaf Academi Wales. Y tu allan i’r gwaith, fel arfer bydd i’w ganfod ar ei feic ar ben mynydd.

Mae’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, yn Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, yn Ieithydd Siartredig, ac yn Gymrawd y Chartered Institute of Linguists. 


Dr Michele Gazzola 

Mae Dr Michele Gazzola yn Ddarlithydd ym maes Polisi a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol a Pholisi Cymhwysol, Prifysgol Ulster, ac yn gyfarwyddwr y cwrs Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Mae ganddo Ddoethuriaeth ym maes Rheoli Cyfathrebu Amlieithog (Prifysgol Geneva). Mae ei broffil ymchwil yn un rhyngddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar ddadansoddi a chloriannu polisi iaith, ac ar astudio agweddau polisi, economaidd a chymdeithasol amlieithrwydd. Mae’n awdur tua 90 o gyhoeddiadau ymchwil, ac mae wedi traddodi cyflwyniadau niferus i gynadleddau ymchwil a sefydliadol mewn sawl gwlad. Bu’n gymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Humboldt Berlin, Prifysgol Leipzig, y Sefydliad Astudiaethau Ethnig yn Ljubljana, ac yn gynorthwyydd ymchwil ym Mhrifysgol Geneva. Bu’n Ddarlithydd cynorthwyol ym Mhrifysgol Lugano, yn ogystal â Chymrawd Ymchwil gwadd ym Mhrifysgol Ottawa, Prifysgol Pompeu Fabra, Barcelona, a Phrifysgol Udine. Ef yw golygydd y cylchgrawn Language Problems & Language Planning.


Dr Jone Goirigolzarri-Garaizar

Darlithydd yng Nghyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Dynol ym Mhrifysgol Deusto yw Jone Goirigolzarri Garaizar. Mae ganddi radd BA mewn Cymdeithaseg, ac Anthropoleg Gymdeithasol a Diwylliannol, a PhD yn y Gwyddorau Cymdeithasol o Brifysgol Deusto. Mae hi’n aelod o dîm ymchwil Gwerthoedd Cymdeithasol Deusto ac yn aelod o Gadair UNESCO ar Dreftadaeth Ieithyddol y Byd ym Mhrifysgol Gwlad y Basg. Ei phrif ddiddordeb ymchwil fu proses adfywio’r Basgeg. Mae hi’n ei astudio o safbwynt gwyddor wleidyddol ac ieithyddiaeth gymdeithasol gan ymdrin â pholisi ieithyddol ac agweddau ac ideolegau ieithyddol. Mae ei hymchwil ddiweddaraf wedi canolbwyntio ar brosesau muda siaradwyr ifanc Basgeg. Ar hyn o bryd mae hi’n gysylltiedig â’r Prosiect ymchwil EquiLing sy’n ystyried sut y gall ymchwil ieithyddiaeth gymdeithasol esbonio’r prosesau cymhleth sy’n golygu bod ieithoedd yn creu, cynnal ac atgyfnerthu anghydraddoldeb mewn cymdeithas. Mae ei hymchwil hefyd wedi elwa o’i gweithgarwch y tu hwnt i’r maes academaidd, ac mewn cydweithrediad â gwahanol asiantau cymdeithasol a mudiadau llawr gwlad sy’n rhan o adfywiad Basgeg. Yn hyn o beth, fe arweiniodd broses o fyfyrio ar orffennol, presennol a dyfodol adfywiad cymdeithasol Basgeg, se ffrwyth y llyfr (cyfieithiad o’r Basgeg) “The revitalization of Basque: rethinking new frameworks, discourses and practices” (Goirigolzarri, Manterola a Landabidea 2017).


Àngels Jericó Dindinger

Àngels Jericó Dindingeryw Pennaeth Gwasanaeth Cyfieithu a Chyngor Ieithyddol Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Cynllunio Academaidd a Pholisi Ieithyddol, Llywodraeth Cymuned Ymreolus Valencia.

Mae ganddi radd mewn Ieithoedd Modern, mewn Astudiaethau Cyfieithu a Dehongli a gradd uwch  mewn Cyfieithu Cyfreithiol. Fel athro cyswllt ieithoedd modern, mae hi wedi dysgu ieithoedd mewn ysgolion uwchradd ac ym Mhrifysgol Valencia. Mae hi hefyd wedi bod yn ymwneud â hyfforddiant athrawon yn y Ganolfan Arloesedd Athrawon ac Adnoddau ar gyfer Ieithoedd (CEFIRE), datblygu adnoddau iaith, cynllunio cyrsiau yn seiliedig ar dechnoleg ac ieithoedd, a chymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi a gweithdai.

Yn Llywodraeth Cymuned Ymreolus Valencia, mae ei phrif dasgau’n cynnwys cydlynu’r swyddogion sy’n gyfrifol am ddefnydd o’r iaith ranbarthol a’i hyrwyddol, swyddogaethau prawfddarllen a chyfieithu dogfennaeth swyddogol yn iaith Valencia a Sbaeneg, yn ogystal â llunio ymgyrchoedd iaith, deunyddiau ac adnoddau ar gyfer hyrwyddo’r iaith ranbarthol.

Ers dros 20 mlynedd bu’n ymwneud ag addysg, hyfforddiant iaith, cyfieithu a phrawfddarllen, ac mae ei diddordebau’n cynnwys technolegau’r iaith ar gyfer ieithoedd modern a rhanbarthol.


Cor van der Meer

Yn ddiweddar, ymddeolodd Dr C. van der Meer (Cor) o fod yn ymchwilydd a rheolwr prosiect y Fryske Akademy, Leeuwarden/yr Iseldiroedd. Cyn hynny, roedd yn rheolwr Canolfan Ymchwil Mercator ar Amlieithrwydd a Dysgu Iaith ers 2004. Corff anllywodraethol yw Mercator sy’n ymroddedig i gaffael, dosbarthu a chymhwyso gwybodaeth i gynorthwyo amrywiaeth ieithyddol Ewrop, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol. 

Mae Cor yn arbenigwr ym meysydd amlieithrwydd, ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol, a dysgu iaith. Mae ei waith yn aml yn gysylltiedig ag amcanion ac arferion nifer o sefydliadau rhyngwladol. Mae’n aelod o Bwyllgor Llywio’r Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywioldeb Ieithyddol (NPLD).


Yr Athro Leigh Oakes

Mae Leigh Oakes yn Athro Ffrangeg ac Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Queen Mary, Llundain. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio’n fras ar bolisi a chynllunio iaith, iaith a hunaniaeth, ac agweddau ac ideolegau ieithyddol, yn enwedig yng nghyd-destun sefyllfaoedd Quebec, Ffrainc a Sweden. Ers rhai blynyddoedd, mae wedi meithrin diddordeb arbennig yn nadl cyfiawnder ieithyddol mewn damcaniaeth/ athroniaeth wleidyddol, gan ddadlau o blaid ymgorffori dulliau normadol a rhyngddisgyblaethol i ymchwil prif ffrwd mewn polisi a chynllunio ieithyddol. Ymhlith ei gyhoeddiadau mae Normative Language Policy: Ethics, Politics, Principles (gyda Yael Peled, 2018, Gwasg Prifysgol Caergrawnt), Language, Citizenship and Identity in Quebec (gyda Jane Warren, 2007, Palgrave Macmillan), a Language and National Identity: Comparing France and Sweden (2001, John Benjamins). Mae’n un o gyd-olygyddion Sociolinguistica: European Journal of Sociolinguistics (De Gruyter) a’r gyfres lyfrau Multilingual Matters (Multilingual Matters’.


Yr Athro Bernadette O’Rourke

Mae Bernadette O’Rourke yn Athro mewn Sosioieithyddiaeth ac Astudiaethau Sbaenaidd yn Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Prifysgol Glasgow. Mae ei hymchwil yn cwmpasu maes eang sosioieithyddiaeth a chymdeithaseg iaith ac yn canolbwyntio ar ystyron gwleidyddol a chymdeithasol iaith a’u dylanwad ar gymdeithas. Hi oedd Cadeirydd prosiect COST UE ar Siaradwyr Newydd mewn Ewrop Amlieithog: Cyfleoedd a Heriau (2013 – 2017). Ymhlith ei chyhoeddiadau diweddar wedi’u cydawdura mae New Speakers of Irish in the Global Context: New revival?  (Routledge 2020) a’r Palgrave Handbook of Minority Languages and Communities (Palgrave 2019) a enillodd Wobr Lyfr Cymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol Prydain (BAAL) yn 2020. Ar hyn o bryd mae’n cwblhau llyfr newydd o brosiect a ariannwyd gan Leverhulme o’r enw A new agenda in minority language sociolinguistics: rethinking contemporary language revitalisation (Gwasg Prifysgol Caergrawnt).


Dr Ane Ortega-Etcheverry

Tan yn ddiweddar iawn, roedd Ane Ortega-Etcheverry (BA mewn Ieitheg Sbaeneg (Deusto), MA mewn Astudiaethau Cyfieithu (Warwick), a PhD mewn Sosioieithyddiaeth (Llundain)), yn ddarlithydd yn yr Adran Iaith a Llenyddiaeth Addysg yng Ngholeg Prifysgol Hyfforddi Athrawon Begoñako Andra Mari, Bilbao, ym maes addysg amlieithog yng nghyd-destun iaith leiafrifol.  Mae hi’n aelod o dimau ymchwil Prifysgol Gwlad y Basg (UPV/EHU) ELEBILAB a HIJE sy’n gweithio ar Gaffael, Addysg a Defnyddio Basgeg. Mae hi hefyd yn aelod o Gadair UNESCO ar Dreftadaeth Ieithyddol y Byd ym Mhrifysgol Gwlad y Basg, ac wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau yn gysylltiedig ag ieithoedd brodorol, yn eu plith cydweithredu ieithyddol â phobl Nasa (Cauca, Colombia) ar gyfer adfywio’r iaith Nasa Yuwe. Prif faes ei hymchwil dros yr 20 mlynedd diwethaf fu sosioieithyddiaeth yr iaith Fasgeg, yn enwedig agweddau ac ideolegau iaith. Ar y cyd â’i chydweithwyr Estibaliz Amorrortu, Jone Goirigolzarri a Jacqueline Urla, mae hi wedi gwneud gwaith helaeth ar siaradwyr Basgeg newydd. Mae hi’n aelod o’r prosiect Equiling (www.equiling.eu), prosiect ymchwil gweithredol sy’n astudio anghydraddoldeb a grëir gan iaith. Mae ei gwaith diweddaraf yn canolbwyntio ar brosesau muda neu hybu siaradwyr ifanc newydd Basgeg sy’n byw mewn ardaloedd lle mae’r Sbaeneg yn iaith i’r mwyafrif, ymchwil sy’n cael ei gyflawni trwy ddulliau Ymchwil Cyfranogol Gweithredol. 


Yr Athro Marco Tamburelli

Athro Ieithyddiaeth (Dwyieithrwydd) ym Mhrifysgol Bangor yw Marco Tamburelli. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddwyieithrwydd ac amlieithrwydd, o safbwynt cynrychioladol ac o safbwynt ieithyddiaeth gymdeithasol /gymharol. Ar hyn o bryd, mae ei waith yn canolbwyntio ar gymhwyso a datblygu dulliau meintiol i ymchwilio i agweddau sosioieithyddol, seicolegol gymdeithasol ac agweddau cymharol ar ddwyieithrwydd, yn enwedig yng nghyswllt ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol, ar fesur agweddau ieithyddol mewn cymunedau dwyieithog, a mesur pellter strwythurol a chyfraddau eglurder mewn continwa ieithyddol.