Trosedd Gwledig yng Nghymru
Siaradwyr:
Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
Rob Taylor QPM, Cydlynydd Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad Cymru
Dr. Wyn Morris, Prifysgol Aberystwyth
Ymunwch â ni am weminar a thrafodaeth gyda Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, Rob Taylor, Cydlynydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru gyfan a Wyn Morris, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Fusnes Aberystwyth a Chyfarwyddwr Hwb y Rhwydwaith Twf, Gwydnwch Gwledig ac Arloesi (GRRaIN) i wella ein dealltwriaeth o droseddau gwledig, ynghyd â strategaethau ac ymyriadau gan yr heddlu.
Ers ei benodi’n Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Mynd i’r Afael â Throsedd mewn Cymunedau Gwledig fu un o flaenoriaethau Dafydd Llywelyn. Bydd yn trafod y gwaith hwn a’i ymrwymiad yn ddiweddar i gyllido menter ar y cyd â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru – Future Farms Cymru, sy’n anelu i gynyddu defnydd o dechnoleg ar ffermydd gyda’r bwriad o leihau trosedd a’i wneud yn haws i’w ganfod.
Bydd Rob Taylor QPM, yn siarad am ei rôl newydd yng Nghymru a’r hyn sy’n cael ei gyflawni ar gyfer ein cymunedau gwledig, bywyd gwyllt a chynefinoedd. Mae gan Rob 35 mlynedd o brofiad gyda’r heddlu ac mae wedi cael ei wobrwyo lawer gwaith gan y WWF am ei ymrwymiad i ymladd troseddau bywyd gwyllt yng Nghymru.
Cynhelir y weminar ar-lein yn Saesneg a cheir cyfle am sesiwn holi ac ateb. Anfonir y ddolen gyswllt Zoom atoch yn yr e-bost cadarnhau, ac eto 24 awr cyn y digwyddiad.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ar-lein hwn, cysylltwch â car62@aber.ac.uk
Trefnir y digwyddiad hwn gan y Rhwydwaith Twf, Gwydnwch Gwledig ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Trydar: @GRRaIN_
0 thoughts on “Trosedd Gwledig yng Nghymru”