Logo VSSN CWPS

Swyddogaeth mudiadau cymunedol a gwirfoddol lleol mewn pegynnu

Mae hwn yn ddigwyddiad hybrid, a gallwch gofrestru i fod yn bresennol wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Rydym yn annog y rhai sy’n gallu bod yno wyneb yn wyneb i wneud hynny er mwyn cael profiad o raglen wyneb-yn-wyneb wych, ein tref brifysgol hyfryd ar arfordir y Gorllewin, a chroeso cynnes Cymreig. Rydym wedi ymrwymo i fod yn gynhwysol ac mae digwyddiadau hybrid yn hanfodol i allu cyflawni hyn. O’r herwydd, rydym yn benderfynol o roi profiad ystyrlon i’r rhai ohonoch sy’n ymuno â ni ar-lein hefyd.

Manylion

“Enabling communities to respond more effectively to the challenges that they face in the contemporary context; developing collective strategies for social justice and community solidarity; and promoting the politics of hope rather than exacerbating the politics of hate. These are ambitious aims and not without their own inherent tensions.” Mayo 2021 p.71

“It’s easy to take a pessimistic view of our polarised world, particularly in the light of recent events… without a doubt, a high level of polarisation can be destabilising and dangerous. It’s this we have to counteract.” Goldsworthy et al. 2021 p.9 

Mae’n bleser gan Rwydwaith Astudiaethau’r Sector Gwirfoddol (VSSN) a Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) gynnal symposiwm ar y cyd i archwilio rôl sefydliadau cymunedol a gwirfoddol yn y polareiddio mewn cymunedau lleol, gan drafod:

    • cynhwysiant ac allgáu o fewn y sector cymunedol a gwirfoddol,
    • cydlyniad cymunedol, yr hyn sy’n ei ysgogi a’i rwystro,
    • polareiddio a gwrthdaro gwleidyddol mewn cymdeithas sifil leol,
    • arloesi cymunedol er mwyn hyrwyddo undod a/neu ddemocratiaeth gydgynghorol,
    • y rhan y mae sefydliadau cymunedol a gwirfoddol yn ei chwarae yn y gwaith o atgyfnerthu a/neu wrthsefyll polareiddio.

Siaradwyr:

  • Prif araith: Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru – Sut mae Cymru mewn sefyllfa dda i wrthsefyll rhwyg mewn byd sy’n gynyddol begynol
  • Yr Athro Marjorie Mayo, Goldsmiths, Prifysgol Llundain – Datblygiad cymunedol ac addysg boblogaidd yn y cyfnod poblyddol
  • Amanda Morris, Cyngor Mwslimaidd Prydain – Addysgu a grymuso cymunedau i herio cynrychiolaeth broblematig o Fwslimiaid ac Islam yn y cyfryngau
  • Anthony Ince, Prifysgol Caerdydd – Gwrth-ffasgaeth a’r berthynas rhwng y ‘dinesydd da’ ac isadeiledd cymdeithasol
  • Alison Goldsworthy, cydawdur o “Poles Apart: Why people turn against each other and how to bring them together” –Y Camau Nesaf: Cyfleoedd y dyfodol i fynd i’r afael â phegynnu yng Nghymru

 

Rhaglen

09:00 – 10:00 Brecwast colegol a sesiwn rwydweithio cyn y gynhadledd (wyneb yn wyneb)

10:00 – 10:10 Croeso a cyflwyniadau (ar-lein/hybrid)

10:10 – 11:40 Cyflwyniad a thrafodaeth (ar-lein/hybrid)

11:40 – 13:00 Cinio a chwrdd â’r gymuned a sefydliadau gwirfoddol (wyneb yn wyneb)

12:30 – 13:00 Rhwydweithio ar-lein (dewis ychwanegol) (ar-lein)

13:00 – 14:00 Cyflwyniad a thrafodaeth (ar-lein/hybrid)

14:00 – 14:30 Phrif siaradwr: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol (ar-lein/hybrid)

14:30 – 15:00 Paned ac Alison Goldsworthy: Camau nesaf (ar-lein/hybrid)

15:00 – 16:00 Cyfarfodydd deialog terfynol a chacennau colegol (wyneb yn wyneb)

Rhesymeg

Mae’r digwyddiad yn rhan o gyfres reolaidd o ddigwyddiadau undydd VSSN ac yn rhan o’r gweithgareddau lledaenu gwybodaeth a chymryd rhan sy’n gysylltiedig â phrosiect Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) “Poblyddiaeth, Gwrthdaro a Pholareiddio Gwleidyddol”.

Un o bryderon damcaniaethol cynyddol astudiaethau’r sector gwirfoddol yw herio’r rhagdybiaeth bod gweithgareddau gwirfoddol ac elusennol yn seiliedig bob amser ar les cymdeithasol (Grotz a Leonard, 2022, tt 57-76). Mae damcaniaethwyr yn dechrau cydnabod sefydliadau cymdeithas sifil y mae eu gweithgareddau cyfunol yn cynnal ymraniad neu wrthdaro (Edwards 2014). Eto i gyd, gellir ystyried cymunedau ar lawr gwlad hefyd yn lleoliadau lle ymwrthodir â pholareiddio a phoblyddiaeth (Ife 2021). Mae damcaniaethwyr polareiddio yn tynnu ar theori democratiaeth mewn gwyddor gwleidyddiaeth, theori cyswllt rhwng grwpiau mewn seicoleg ochr yn ochr â dadansoddiad o’r ffordd y gellir newid agweddau er mwyn dod o hyd i strategaethau i oresgyn rhaniadau cymdeithasol. (Goldsworthy et al. 2022).

Fformat

Bydd fformat y gynhadledd undydd hon yn ymateb i ddimensiwn penodol o bolareiddio a all wahanu arbenigedd academaidd a’r gymdeithas ehangach, a bydd yn gweithio hefyd gydag opsiynau wyneb yn wyneb, ar-lein a hybrid. Bydd y gynhadledd undydd yn annog trafodaeth rhwng academyddion ac ymarferwyr yn y sector gwirfoddol o ystod eang o sefydliadau cymdeithas sifil, gan gydnabod eu harbenigedd deuol a defnyddio dulliau cynhwysol a chyfranogol o gymryd rhan, gan roi’r theori ar gael gwared o raniadau ar waith yn ymarferol. “Bydd meddyliau’n agored, sgyrsiau’n garedig, a bydd gwerth cyfartal i wahanol wybodaeth” (Locke a Grotz, 2022, t: 191).

Cefnogir y gynhadledd undydd hon gan:

  • Rwydwaith Astudiaethau’r Sector Gwirfoddol (VSSN)
  • Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD). Mae’r digwyddiad hwn yn gysylltiedig â phrosiect ymchwil parhaus dan nawdd yr ESRC o’r enw Poblyddiaeth, Gwrthdaro a Pholareiddio Gwleidyddol yn rhan o’r thema Haenu Dinesig ac Atgyweirio Sifil yng Nghanolfan Cymdeithas Sifil WISERD.
  • Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.
  • Y Ganolfan Ddeialog a lansiwyd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Pwy ddylai fod yn bresennol?

Mae’r digwyddiad hwn yn agored i bawb sydd â diddordeb. Rydym yn annog mynychwyr sydd yn:

  • Ysgolheigion sydd â diddordeb mewn cymdeithas sifil, yn enwedig sefydliadau cymunedol a gwirfoddol a / neu sydd â diddordeb mewn polareiddio, poblyddiaeth, cydlyniad cymunedol neu ddemocratiaeth gydgynghorol
  • Cynrychiolwyr o sefydliadau cymunedol a gwirfoddol sydd â diddordeb mewn polareiddio o fewn eu cymunedau eu hunain a sut y gellir goresgyn hyn
  • Cynrychiolwyr y sector cyhoeddus sydd â diddordeb mewn polareiddio o fewn cymunedau a sut y gellir goresgyn hyn.

Noder y cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg.

Date

Mai 24 2023
Expired!

Time

9:00 am - 4:00 pm

More Info

Cofrestrwch Yma
Cofrestrwch Yma

0 thoughts on “Swyddogaeth mudiadau cymunedol a gwirfoddol lleol mewn pegynnu