Gwedd Newydd ar Ddemocratiaeth

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl y Gelli, i gael rhagor o wybodaeth am sut i brynu tocynnau, ewch i’r wefan hon: https://www.hayfestival.com/home

Mewn byd lle mae ymddiriedaeth mewn arweinwyr yn diffygio a sgyrsiau anodd yn ymddangos yn beryglus, mae Canolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth a Dr Anwen Elias, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, yn lansio ‘Gwedd Newydd ar Ddemocratiaeth’. 

Bydd y prosiect beiddgar hwn yn adeiladu ar y tueddiadau sydd ar hyn o bryd mewn democratiaeth gyfranogol ac yn gofyn i ni gofleidio ein hadnodd mwyaf – creadigrwydd dynol.  Dychmygwch weithiau ffotograffig dan arweiniad y gymuned, gludwaith a gwaith celf yn cyfrannu at lunio polisïau a sefydliadau yn uniongyrchol.  Nod Gwedd Newydd ar Ddemocratiaeth yw galw ar bawb i uno i drawsnewid tirwedd democratiaeth, gan blethu dinasyddiaeth weithredol, mynegiant artistig a pholisi cyhoeddus ynghyd. Ymunwch â nhw wrth iddynt gychwyn ar y daith hon i ailddiffinio sut mae democratiaeth yn datblygu.

Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth

Date

Mai 28 2024
Expired!

More Info

Read More
Read More

0 thoughts on “Gwedd Newydd ar Ddemocratiaeth