Derbyniad Arddangosfa Pen Rheswm/Gwrando’r Galon: Darlunio Dyfodol Cymru
Mae’r arddangosfa yn deillio o brosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth i archwilio sut mae profiadau bywyd pobl yn effeithio ar eu hagwedd tuag at annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia. Mae’r prosiect cymharol, amhleidiol yma yn rhan o raglen ymchwil WISERD ac wedi ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Yn yr arddangosfa dangosir gwaith aelodau Clwb Camera Aberystwyth mewn perthynas â’r prosiect.
Am ddim, sy’n agored i’r cyhoedd, am dri diwrnod gyda gweithgareddau teuluol ar gael.
0 thoughts on “Derbyniad Arddangosfa Pen Rheswm/Gwrando’r Galon: Darlunio Dyfodol Cymru”