Cymru: Cenedl Noddfa? Rhwydwaith Ymchwil Mudo Cymru (WISERD)
11:00-12:00, dydd Sadwrn, 6ed o Awst, Eisteddfod, Panel y Cymdeithasau (1)
Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i ddod yn ‘Genedl Noddfa’ er mwyn cynorthwyo ceiswyr lloches a ffoaduriaid i ymgartrefu yn eu cymunedau newydd. Mae’r term ‘noddfa’ bellach wedi magu gwreiddiau ac fe’i defnyddir mewn disgwrs wleidyddol a chyhoeddus mewn ystod o sectorau a chan wleidyddion, ymarferwyr, gwneuthurwyr polisi a newyddiadurwyr yng Nghymru. Ond, beth yn union mae’r term ‘noddfa’ yn ei olygu? A oes fath beth a noddfa Gymreig? Nod y sesiwn fydd sbarduno trafodaeth ar noddfa yng Nghymru a rôl dinasyddion, sefydliadau, a chymdeithas sifi yng Nghymru wrth geisio creu ‘Genedl Noddfa’.
Cadeirydd:
Dr Catrin Wyn Edwards (Prifysgol Aberystwyth)
Panelwyr:
Parch. Aled Edwards OBE (Cytûn)
Joseff Gnagbo (Cymdeithas yr Iaith)
Dr Angharad Closs Stephens (Prifysgol Abertawe)
0 thoughts on “Cymru: Cenedl Noddfa? Rhwydwaith Ymchwil Mudo Cymru (WISERD)”