Ar ôl y Comisiwn Cyfansoddiadol: Mapio’r Ffordd i Annibyniaeth Cymru
Bydd arweinydd Plaid Cymru yn lansio ein cyfres newydd o ddigwyddiadau ar Ddyfodolau Cyfansoddiadol, a fydd yn ystyried llywodraethu Cymru yn y dyfodol o wahanol safbwyntiau.
Amlinellodd adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru opsiynau gwahanol ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Bydd Rhun ap Iorwerth AS, arweinydd Plaid Cymru, yn ymateb i’r adroddiad ac yn myfyrio ar y goblygiadau i bolisi annibyniaeth Plaid Cymru i Gymru.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan Cyd-gyfarwyddwr CWPS-WISERD ac aelod o’r Comisiwn Dr Anwen Elias.
Mae’r digwyddiad hwn yn croesawu pobl o bob agwedd wleidyddol. Dilynir yr araith gan sesiwn holi ac ateb, a chyfle i drafod ymhellach.
0 thoughts on “Ar ôl y Comisiwn Cyfansoddiadol: Mapio’r Ffordd i Annibyniaeth Cymru”