Canrif a mwy o Astudio Cymru!

Dydd Sadwrn 24 Mehefin, 12:30 – 14:00, Sinema Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

Yn rhan o Benwythnos Aduniad Prifysgol Aberystwyth 2023, mae CWPS yn cynnal digwyddiad i gloriannu cyfraniad y Brifysgol at astudio a deall Cymru dros ganrif a mwy.

Byddwn yn trafod cyfraniadau i astudio Cymru hyd yma ac i’r dyfodol mewn meysydd sy’n cynnwys Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Celf, Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Siaradwyr

Yr Athro Anwen Jones

Yr Athro Rhys Jones

Dr Samuel Raybone

Dr Elin Royles

Bydd y digwyddiad hwn yn un Cymraeg a Saesneg, gyda chyfieithu ar y pryd ar gael i unigolion nad ydynt yn siarad Cymraeg.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb, ond bydd angen talu os ydych am fynychu gweddill Penwythnos Aduniad Prifysgol Aberystwyth 2023.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!


Penwythnos Aduniad 2023

Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.aber.ac.uk/cy/development/newsandevents/events/reunion-weekend-2023/

Mae Penwythnos yr Aduniad yn gyfle i gyn-fyfyrwyr, cyn-aelodau staff a chyfeillion Aber ddod ynghyd i ddathlu ein hanes a’n llwyddiant a chlywed am ddatblygiadau arfaethedig ar gyfer y dyfodol.

Bydd yn gyfle i ailgysylltu a hel atgofion gyda hen ffrindiau, cyfarfod cyfoedion, a gweld beth sydd wedi newid ers pan oeddech yn fyfyriwr yma yn Aber.


I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch â cwps@aber.ac.uk.

Trefnir y digwyddiad hwn gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Twitter: @CWPSAber

Facebook: @CWPSAber

Instagram: @CWPSAber

Date

Meh 24 2023
Expired!

Time

12:30 pm - 2:00 pm

More Info

Cofrestrwch yma
Cofrestrwch yma

0 thoughts on “Canrif a mwy o Astudio Cymru!