Mae ein hymchwil ni yn y tri achos yn dangos bod pobl yn meddwl am annibyniaeth drwy eu profiad nhw o wleidyddiaeth a’r sefyllfa economaidd ar hyn o bryd. 

Mae rhai yn credu y bydd annibyniaeth yn trawsnewid cymdeithas ac yn creu dyfodol gwahanol a gwell. Yng Nghymru, mae pobl yn credu mai annibyniaeth yw’r unig ffordd o wneud penderfyniadau sy’n ateb anghenion y wlad, lle nad yw San Steffan yn gallu ymyrryd yn sut mae Cymru yn cael ei rhedeg.  

I eraill, mae annibyniaeth yn risg enfawr. Yng Nghymru, roedd pobl yn poeni a fyddai Cymru’n rhy fach neu’n rhy dlawd i sefyll ar ei thraed ei hun.   

Mae cael dadl onest am annibyniaeth hefyd yn anodd. Pwy y gallwn ni ymddiried ynddyn nhw i roi gwybodaeth ddiduedd inni am beth fyddai hyn yn ei olygu i Gymru yn y dyfodol?