Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol – Ymchwil Prifysgol Aberystwyth

Arweinydd Thema: Elin Royles (ear@aber.ac.uk)

Bwriad ein gwaith yw manteisio ar gryfderau ac arbenigedd ymchwil ac ymarfer ym maes ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol sydd eisoes yn bodoli ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ei wasgaru ar draws adrannau academaidd, drwy eu tynnu ynghyd dan un faner. Y nod yw ein sefydlu fel canolfan ragoriaeth aml-ddisgyblaethol gydnabyddedig yn rhyngwladol ym maes ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol.

Ymysg y prif feysydd ymchwil ble mae arbenigeddau (a heb fod yn gyfynedig iddynt) mae’r canlynol;

  • Agweddau at iaith, arferion defnydd a chaffael iaith, effaith dwyieithrwydd ar siaradwyr;
  • Iaith, moeseg a hawliau: hawliau siaradwyr ieithoedd lleiafrifol fel hawl ddynol, effaith deddfwriaeth iaith ar ymddygiad ieithyddol, dwyieithrwydd a chyfieithu yng nghyd-destun y gyfraith;
  • Addysg ddwyieithog gan gynnwys safbwyntiau disgyblion o ran astudio yn Gymraeg a sut i annog dilyniant astudio’n Gymraeg; safbwyntiau disgyblion o gartrefi di-Gymraeg a sut i’w cefnogi i astudio yn Gymraeg, a thrawsieithu;
  • Polisi Iaith a Newid Ymddygiad, ieithoedd lleiafrifol a datblygu cynaliadwy;
  • Astudio sefyllfaoedd lle mae’r Gymraeg ac ieithoedd eraill wedi cael ac yn cael eu hallgau e.e. llywodraethiant, y gyfraith, byd busnes a’r economi er mwyn deall ffactorau sy’n arwain at hynny a strategaethau er mwyn cynyddu cynwysoldeb o ran iaith;
  • Deall sefyllfa a heriau cynnal ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol yng nghyd-destun trawsnewidiadau cymdeithasol  gan gynnwys mudo a neo-ryddfrydiaeth;
  • Prosiectau iaith, llenyddiaeth, drama, theatr, ffilm a theledu: arbenigedd o ran iaith, llenyddiaeth, ieithyddiaeth ac ieitheg y Gymraeg a ieithoedd Celtaidd eraill.  Prosiectau’n cynnwys ‘Cerdd Iaith’ o ran pedagogeg aml-ieithog, y Gymraeg yn y gweithle a chyfieithu.

Rhwydweithiau cysylltiedig

Aelod Cysylltiol o’r Rhwydwaith Ewropeaidd NPLD, Network for the Promotion of Linguistic Diversity

Aelod fu’n rhan o sylfaenu rhwydwaith academaidd UniNet, Rhwydwaith Prifysgolion NPLD

Rhwydwaith Ymchwil Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth WISERD

Gwybodaeth am gynhadledd ‘Methodolegau ymchwil ac ymchwil i ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol’ a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth, 9 a 10 Gorffennaf 2024

Prif Aelodau’r Ganolfan, yn nhrefn yr wyddor:

Dr Hanna Binks, Adran Seicoleg; Dr Cathryn Charnell-White, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd; Dr Lowri Cunnington Wynn, Adran y Gyfraith a Throseddeg; Dr Catrin Wyn Edwards, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol; Yr Athro Mererid Hopwood, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd; Mr Dylan Hughes, Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg;

Dr Catrin Fflûr Huws,  Adran y Gyfraith a Throseddeg; Dr Rhianedd Jewell, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd; Yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor, Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol; Yr Athro Rhys Jones, Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear;

Yr Athro Emyr Lewis, Adran y Gyfraith a Throseddeg; Dr Huw Lewis,  Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Dr Sian Lloyd-Williams, yr Ysgol Addysg; Ms Elizabeth Morse, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd; Dr Ben Ó Ceallaigh, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd; Dr Elin Royles, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Papurau briffio a thystiolaeth yn berthnasol i’n gwaith:

i ddilyn

Prosiectau cysylltiedig:

Addysg, Iaith a Hunaniaeth – Pecyn GwaithWISERD/Civil Society 2.3 (2016-2019, ESRC)

Ariannwyd rhwydwaith ymchwil Adfywio  gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’i gydlynu gan ymchwilwyr o brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caeredin. Ystyriodd oblygiadau newidiadau cymdeithasol cyfoes i’n dealltwriaeth o sut dylid cynllunio a gweithredu ymdrechion adfywio iaith. Bu’n fodd o gynnull ynghyd grŵp rhyngwladol a thraws-ddisgyblaethol o ymchwilwyr, yn cwmpasu’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol, ynghyd ag amryw o ymarferwyr blaenllaw ym maes polisi iaith.  Am y fwy o wybodaeth a mynediad i’r deunydd gynhyrchwyd fel rhan o’r prosiect gweler: http://revitalise.aber.ac.uk/cy