Cynhadledd ‘Methodolegau ymchwil ac ymchwil i ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol’

Prifysgol Aberystwyth, Cymru, DU

9 a 10 Gorffennaf 2024

Siaradwyr sydd wedi cadarnhau

Dr Michele Gazzola, Prifysgol Ulster

Dr Jone Goirigolzarri-Garaizar,  Prifysgol Deusto  a Dr Ane Ortega, Equiling project

Yr Athro Leigh Oakes, Prifysgol Queen Mary Llundain

Yr Athro Bernadette O’Rourke, Prifysgol Glagow

Yr Athro Marco Tamburelli, Prifysgol Bangor

Digwyddiad wyneb yn wyneb a drefnir gan Rwydwaith Iaith Canolfan Ymchwil WISERD, Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, UniNet –  Rhwydwaith Prifysgolion NPLD a’r NPLD: Rhwydwaith Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol.

Cyd-destun

Wrth i lunwyr polisi ac academyddion fel ei gilydd ddod yn fwyfwy ymwybodol o’r bygythiadau sy’n wynebu ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol, mae ymchwil i’r ieithoedd hyn yn hynod bwysig. Bydd y gweithdy hwn yn trafod ac yn rhannu arferion gorau o ran methodolegau ymchwil ym maes polisi a chynllunio ac iaith.

Noda Oakes (2023) nifer o heriau yn wynebu ymchwil Polisi a Chynllunio Iaith a’r cam nesaf o ddatblygiad sy’n berthnasol i ymchwil i ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol. Yn benodol, mae’n dadlau dros ganolbwyntio mwy ar ailgysylltu â llunwyr polisi, agweddau ymarferol ar lunio polisi a’r ystyriaethau sy’n eu hwynebu wrth ‘wneud a chyfiawnhau dewisiadau am iaith’.

Y Gynhadledd

O ganlyniad, bydd y gynhadledd hon yn ystyried methodolegau i ymchwilio i’r prif heriau sy’n wynebu llunwyr ac ymarferwyr polisi iaith a sut i fynd i’r afael â’r agweddau mwy ymarferol ar lunio a gweithredu polisi ym maes ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol (gan ddefnyddio iaith y Siarter Ewropeaidd Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol). Rhoddir sylw hefyd i ymateb i her Oakes o ail-gysylltu â gwreiddiau rhyngddisgyblaethol polisi a chynllunio iaith drwy ystyried ymwneud amlddisgyblaethol cyfredol gyda’r maes a’r posibiliad o ehangu hynny yn bellach.  Yr her yw ymateb i’r cymhlethdod a’r her o feithrin cysylltiadau ar draws disgyblaethau wrth ymchwilio i ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol.

Ymysg y meysydd o diddordeb allweddol o ran ystyried methodolegau i ymchwilio i ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol fydd:

-hyrwyddo defnydd iaith, yn enwedig ymchwilio i’r ffactorau a’r gwerthoedd sy’n effeithio ar ddefnydd cymdeithasol o iaith;

-cynnwys llais plant a phobl ifanc, a grwpiau sydd ar y cyrion wrth ymchwilio i ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol;

-ymchwilio dwyieithrwydd;

-potensial gwyddor y werin mewn ymchwil yn y maes;

-methodolegau ar gyfer gwerthuso polisïau a chynlluniau iaith sy’n rhan o bolisi cyhoeddus;

-tirweddau iaith;

– ymchwil i dechnoleg a ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol a/neu ddefnyddio technoleg fel arf ymchwil mewn ymchwil i’r ieithoedd hyn;

– ymchwil amlddisgyblaethol a’r heriau sy’n galw am ymchwil amlddisgyblaethol, er enghraifft effaith newid hinsawdd ar gymunedau ieithoedd lleiafrifol, ieithoedd llai a deallusrwydd artiffisial.

O ran trefn y gweithdy, bydd sesiynnau gwahanol:

  • sesiynau dan arweiniad siaradwyr gwadd
  • sesiynau panel ar fformat cyflwyno papurau, neu fformat trafodaeth banel
  • Posteri

Rydym wedi trefnu pecyn cynadledd rhesymol ei bris yn cynnwys lletyensuite premiwm ar y campws ac opsiynau ffi un diwrnod neu ddauddiwrnod am fynychu. 

 Mae modd i chi gofrestru ar gyfer y gynhadledd ac archebu llety yma

Mwy o wybodaeth am deithio i Aberystwyth yma.

Ewch i’r Alwad am Bapurau (dyddiad cau dydd Mercher 21 Chwefror)