

O fod yn fyfyriwr gwleidyddiaeth ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, i fod yn newyddiadurwr, yn Aelod o’r Senedd ac yn Weinidog yn Llywodraeth Cymru, bydd Lee Waters, o’i safle manteisiol, yn ystyried datblygiad gwleidyddiaeth ddatganoledig dros ddau ddegawd. Ymunwch â ni i drafod cyfleoedd a heriau datganoli, a’r rhagolygon ar gyfer dyfodol democratiaeth Cymru a’r Blaid Lafur yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Saesneg, a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer cyfraniadau yn Gymraeg.
I ymuno â ni yn y digwyddiad hwn, cofrestrwch gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol: CWPS Darlith Flynyddol Ffurflen Gofrestru / CWPS Annual Lecture Registration Form – Fill out form