Cydraddoldeb hiliol yng Nghymru oedd ffocws Darlith Flynyddol Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru 2021 y bu dros 200 o bobl yn ei gwylio’n fyw ar Zoom yr wythnos hon.
Cyflwynwyd y ddarlith, Dangos gwir liwiau: gwleidyddiaeth newidiol cydraddoldeb hiliol yng Nghymru, gan yr Athro Charlotte Williams OBE, Cadeirydd Gweithgor diweddar Llywodraeth Cymru, ‘Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin: Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd’.
Rhoddodd Charlotte Williams sylwebaeth graff ac arsylwadau ar yr hyn roedd yn ei alw’n “symudiad critigol” mewn perthynas â chydraddoldeb hiliol yn genedlaethol.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Drafft ym mis Mawrth eleni. Ar yr un pryd, cyhoeddwyd adroddiad Sewell Llywodraeth y DU, oedd yn gwrthod hiliaeth sefydliadol. Mae’r ymateb i anghydraddoldeb sydd wedi’i ailfywiogi’n llwyr a geir yng nghynllun Cymru yn gosod agenda i gyflawni Cymru gwrth-hiliol erbyn 2030.
Trafododd yr Athro Williams y symudiad pendant hwn i ffwrdd o wleidyddiaeth hil ehangach y DU, gan egluro ei fod yn bosibl oherwydd arbenigrwydd y cyd-destun Cymreig, datganoledig, a’r hyn mae’n ei olygu ar gyfer cynnydd posibl o ran cydraddoldeb hiliol yng Nghymru.
Er mwyn datblygu cydraddoldeb hiliol yng Nghymru mae’n rhaid i ni ddeall sut y caiff hil ei chynrychioli yng Nghymru, yr hyn rwy’n ei alw’n ‘feddylfryd hil ’. Mae cydraddoldeb hiliol yn mynd ymhell y tu hwnt i bolisi cyhoeddus, i holi cwestiynau am hunaniaeth cymdeithas ei hun.
Yr Athro Charlotte Williams OBE
Aeth ymlaen: “Mae’r bygythiad i hunaniaeth genedlaethol Cymru’n llai; dyw hi ddim yn cyd-fynd â’r weledigaeth amddiffynnol ‘Prydain fach’ a geir yn Lloegr. Ceir tystiolaeth fod Cymru’n agored ac yn barod i ailffurfio ei hunaniaeth genedlaethol yn y ddemocratiaeth newydd.”
Gorffennodd trwy ddweud: “Rydym ni’n paratoi agenda dad-wladychu ym maes addysg. Ail-ffurfio ffyrdd Cymreig o fyw yw’r hyn fydd yn golygu y gall y polisïau hyn deithio.”Dywedodd yr Athro Michael Woods, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru; “Mae llofruddiaeth George Floyd flwyddyn yn ôl, mudiad Black Lives Matter, a thrafodaethau ynghylch gwaddol caethwasiaeth wedi codi ymwybyddiaeth o anghyfiawnder hiliol ledled y byd. Dyw Cymru ddim yn eithriad ac roedd darlith Charlotte yn gyfraniad pwysig i ddangos sut y gallwn ffurfio cymdeithas sy’n fwy cyfiawn o ran hil.”