Yn y rhifyn diweddaraf o The Welsh Agenda mae Dr Anwen Alias, Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD, Matthew Jarvis, aelod o Fwrdd Gweithredol CWPS, a Mike Corcoran a Noreen Blanluet yn trafod ar ba ffurf y dylid cynnal trafodaeth genedlaethol ynglŷn â dyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Mae’r drafodaeth yn seiliedig ar y prosiect ‘Dyfodol Cyfansoddiadol’ sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Aberystwyth, o dan arweiniad Dr Anwen Elias yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Aelodau eraill y tîm yw’r Athro Matthew Jarvis o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, ac Eurig Salisbury o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.