Beth nesaf i ddyfodol cyfansoddiadol Cymru?

Ymunwch â sgwrs gyda Dr Anwen Elias a'r Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones wrth iddynt ystyried gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a'r argymhellion a nodir yn ei adroddiad terfynol. Beth allwn ni ei ddysgu o ddull y Comisiwn o siarad am faterion cyfansoddiadol? Beth allwn ni ddisgwyl i ddigwydd nesaf?18:00 Lluniaeth18:30-19:30 Trafodaeth a […]

Darlunio’r Dyfodol – Arddangosfa a thrafodaeth banel

Arddangosfa Ffotograffiaeth Rhwng 11 a 5 bydd ein harddangosfa o ffotograffiaeth o’n prosiect sy’n defnyddio ffotograffau i ddeall sut mae pobl yn teimlo am annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia ar agor i’r cyhoedd. Mae mynediad am ddim I’r Senedd ac I’r arddangosfa hon ac nid oes angen archebu o flaen llaw. Mae mwy […]

Gwedd Newydd ar Ddemocratiaeth

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl y Gelli, i gael rhagor o wybodaeth am sut i brynu tocynnau, ewch i'r wefan hon: https://www.hayfestival.com/homeMewn byd lle mae ymddiriedaeth mewn arweinwyr yn diffygio a sgyrsiau anodd yn ymddangos yn beryglus, mae Canolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth a Dr Anwen Elias, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, yn […]

Eisteddfod – Sgyrsiau creadigol am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru

Stondin Prifysgol Aberystwyth

Trafodaeth o dan arweiniad yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am sut all dulliau gweledol gyfrannu at y drafodaeth am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru a’r gwersi o Gymru ar gyfer y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt. (Cyflwynir yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu.)

Eisteddfod – ‘Wedi’r Etholiad Cyffredinol’

Stondin Prifysgol Aberystwyth

Trafodaeth banel gyda chynfyfyrwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn dadansoddi canlyniadau a goblygiadau’r Etholiad Cyffredinol yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Cymru a thu hwnt.

Eisteddfod – Yr Economi a’r Iaith Gymraeg: Arfor a thu hwnt

Y Lido

Sesiwn dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth yn trafod canfyddiadau gwerthuso rhaglen Arfor sy’n defnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a chamau nesaf agenda economaidd i gefnogi’r iaith Gymraeg yng Nghymru. Siaradwyr: Adam Price AS; Elen Bonner, Prifysgol Bangor; Llŷr Roberts, Mentera; Ioan Teifi, Wavehill gyda Dr Elin Royles, Prifysgol Aberystwyth yn cadeirio.