Mae Canolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth a Chanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS) wedi lansio pecyn cymorth unigryw yn dangos sut y gall gwneud collage helpu pobl i drafod materion pwysig yn fwriadol.
Mae Deialog Mewn Collage: Dull Creadigol at Greu Sgyrsiau Cydystyried yn cynnig canllaw cam wrth gam ar gyfer cynnal gweithdy dwy awr lle mae gwneud collage yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o drafod heriau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd.
Cafodd y pecyn cymorth ei ddadorchuddio yng Ngŵyl y Gelli ddydd Mawrth 28 Mai 2024 yn dilyn sesiwn ar dan arweiniad Dr Anwen Elias, Cyd-gyfarwyddwr CWPS, a Dr Jennifer Wolowic, Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog.cyd
Dywedodd Dr Elias, sydd wedi’i leoli yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth: “Mae diddordeb cynyddol ledled y byd mewn gweithgareddau sy’n dod â dinasyddion ynghyd i glywed a thrafod gwahanol safbwyntiau ar bynciau anodd a dod i safbwynt gwybodus. Mae ein pecyn cymorth yn defnyddio collage fel dull creadigol o sefydlu sgyrsiau a rhoi ffordd wahanol i bobl fynegi eu barn a’u teimladau am bwnc.”
Ychwanegodd Dr Wolowic: “Rydym wedi dylunio’r pecyn cymorth yma fel ei fod yn hygyrch i bawb ac yn hawdd i’w ddefnyddio. Mae’n seiliedig ar egwyddorion a dulliau deialog a thrafod, ac mae’n cynnig dull creadigol syml – sef gwneud collage – fel ffordd o ystyried syniadau a safbwyntiau ar bwnc penodol. Gellir ategu’r broses hon o ddeialog greadigol â gweithgareddau cydystyried i helpu cyfranogwyr i bwyso a mesur gwahanol opsiynau a chyfaddawdau, i ystyried blaenoriaethau a chanfod atebion.”
Cynhyrchwyd y pecyn cymorth yn dilyn prosiect peilot dan arweiniad CWPS a gynhaliodd gyfres o weithdai creu collage gyda grwpiau cymunedol yng Nghasnewydd, De Cymru, yn edrych ar sut y gellid llywodraethu Cymru yn y dyfodol.
Gellir lawrlwytho pecyn cymorth Deialog Mewn Collage o wefan y Ganolfan Deialog neu gallwch anfon e-bost at deialog@aber.ac.uk i ofyn am gopi caled.
Lawrlwytho’r pecyn cymorth
Gallwch lawrlwytho ac argraffu gopi PDF o’r llyfryn Deialog Mewn Collage: Dull Creadigol at Greu Sgyrsiau Cydystyried gan Dr Anwen Elias a Dr Jennifer Wolowic. Lawrlwytho’r pecyn