Fydd y Deyrnas Unedig yn goroesi?” yw’r pwnc llosg gwleidyddol a fydd yn destun darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Traddodir ‘Fractured Union’ gan yr Athro Michael Kenny, arbenigwr ar gyfansoddiad y DU, hunaniaeth genedlaethol a gwleidyddiaeth diriogaethol.
Cynhelir y ddarlith gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth, yn rhan o gyfres newydd o ddigwyddiadau yn trafod y Dyfodol Cyfansoddiadol.
Bydd yr Athro Kenny, sy’n Gyfarwyddwr Sefydliad Polisi Cyhoeddus Bennett ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn trafod ei lyfr newydd ‘Fractured Union: Politics, Sovereignty and the Fight to Save the UK’ (Hurst, 2024).
Gan ddefnyddio corpws o gyfweliadau â Gweinidogion, ASau a gweision sifil – a gynhaliwyd dros sawl blwyddyn – mae’r Athro Kenny wedi archwilio i’r diffyg ffydd wleidyddol yn hyfywedd hirdymor yr Undeb Brydeinig.
Bydd ei ddarlith yn ystyried yr argyfyngau a’r tensiynau yn yr Undeb, y cymhlethdodau a’r heriau sy’n dod o ddatganoli, ac yn trafod sut mae digwyddiadau anferth fel refferendwm yr Alban ar annibyniaeth, Brecsit, a’r pandemig Cofid wedi ychwanegu at y tensiynau rhwng San Steffan a’r gweinyddiaethau datganoledig.
Dywedodd y Dr Anwen Elias, Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth a Chyd-Gyfarwyddwr ar Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS): “Dyma gyfle gwych i glywed gan un o’r meddylwyr blaenllaw ar wleidyddiaeth gyfansoddiadol yn y DU. Bydd ei anerchiad amserol yn ystyried yr heriau cyfansoddiadol pennaf sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig a allai beryglu dyfodol yr Undeb.”
Cynhelir y ddarlith ddydd Llun 29 Ebrill 2024 ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth. Bydd y noson yn dechrau â derbyniad diodydd am 6pm, gyda’r ddarlith am 6.30pm a sesiwn holi a ateb wedyn.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb. Gellir archebu’ch lle yn: https://www.tickettailor.com/events/cwpsaber/1175352
Contacts
Dr Anwen Elias,
Department of International Politics,
Aberystwyth University
awe@aber.ac.uk
Alice Earp,
Communications and Public Affairs,
Aberystwyth University
ale@aber.ac.uk