Bydd gwerthusiad o gynllun a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth i leihau allyriadau carbon yn cael ei drafod yn y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mercher 4 Hydref 2017.
Mae’r cynnig sydd wedi ei noddi gan grŵp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu astudiaeth dichonolrwydd i gyflwyno Cyfrifon Carbon Personol yng Nghymru.
Mae’r cynnig yn tynnu ar waith Martin Burgess, ymchwilydd yng Nghanolfan Ymchwil i Ymddygiad yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae Cyfrifon Carbon Personol yn seiliedig ar gysyniad a ddatblygwyd yng nghanol y 1990au ac yn gweithredu fel cyfrifon cyfredol banc cyffredin gyda cherdyn debyd.
Mae gan bob person gyfrif lle mae credydau carbon rhad ac am ddim yn cael eu talu bob mis. Caiff y rhain eu gwario wrth brynu tanwydd ar gyfer cerbydau a’r cartref – petrol, disel, nwy, trydan neu olew tanwydd.
Gall defnyddwyr trwm brynu mwy o gredydau os ydynt yn rhedeg allan, tra bod defnyddwyr isel yn medru gwerthu credydau sydd heb eu gwario, a’u cyfnewid am arian.
Nod y cynllun yw canolbwyntio ymwybyddiaeth pobl o’u defnydd o garbon, ac yn raddol eu perswadio i leihau eu defnydd o danwydd ffosil trwy newid eu hymddygiad yn wirfoddol.
Mae’r cynnig i’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am sefydlu gwerthusiad i ymarferoldeb cynnal cynllun peilot mewn ardal yng Nghymru, gan archwilio’n fanwl sut y byddai’r cynllun yn gweithio o ddydd i ddydd.
Mae Martin Burgess wedi cynnal astudiaeth fanwl o’r cynigion gwreiddiol a ddaeth i amlygrwydd yn 2006 pan oedd David Miliband yn Ysgrifennydd yr Amgylchedd. Gollyngwyd y syniad yn 2008 ar sail cost a derbynioldeb cymdeithasol.
Mae’r dull newydd yn defnyddio theori newid ymddygiad cymhwysol i leihau defnydd, ac yn tynnu ar ddealltwriaeth a gafwyd o’r ymgyrch lwyddiannus i leihau’r defnydd o fagiau siopa plastig o archfarchnadoedd.
Meddai Martin Burgess: “Mae amrywiadau enfawr yn y defnydd o danwydd rhwng aelwydydd o faint tebyg ac incwm sy’n byw mewn cartrefi tebyg. Mae Cyfrifon Carbon Personol wedi eu cynllunio i alluogi pobl i feddwl eto am sut y maent yn defnyddio tanwydd a chreu llygredd carbon. Codi ymwybyddiaeth a gwneud gostyngiadau bach yw bwriad y cynllun yn y lle cyntaf, er y bydd manteision economaidd go iawn i bobl wrth iddynt leihau faint o danwydd maent yn ei ddefnyddio.”
“Yn y tymor hirach, byddai’n dylanwadu ar sut y mae pobl yn gwneud penderfyniadau mwy, megis dewis car neu fuddsoddi mewn inswleiddio gwell ar dŷ, gan eu hannog i gymryd yr opsiwn a fyddai’n eu gweld yn defnyddio llai o gredydau carbon ac arbed arian.
“Mae hefyd yn ymwneud â newid yr hyn a ystyrir yn ymddygiad cymdeithasol derbyniol a greddf pobl i gydymffurfio â’r safonau cymdeithasol gwahanol hyn. Er enghraifft, ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd siopwyr a oedd yn mynd â bagiau i archfarchnadoedd yn cael eu hystyried yn gybyddlyd neu’n od: bellach mae’n cael ei weld fel arfer perffaith arferol. Y rhai sy’n prynu llawer of fagiau ar y til sy’n cael eu hystyried yn rhyfedd neu ddim yn hollol dderbyniol erbyn hyn. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cydymffurfio â’r arferol newydd.”
“Mae’r tâl bach am fagiau plastig wedi newid y norm cymdeithasol yn gyfan gwbl trwy ail ddiffinio’r defnydd ym meddyliau pobl. Mae Cyfrifon Carbon Personol yn ceisio ei harneisio’r mecanwaith meddylion hwn.
“Nid defnyddio Cyfrifon Carbon Personol i gosbi dinasyddion am ddefnydd llawer o garbon yw’r bwriad, ond yn hytrach ail-fframio’r defnydd o garbon mewn ffordd debyg i’r modd y mae pobl yn cyllido ac yn cydymffurfio, gyda chymorth polisïau eraill, er mwyn lleihau’r defnydd o garbon.”
Meddai’r Athro Mark Whitehead o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: “Rydym wrth ein bodd â’r ffordd y mae’r ymchwil hwn wedi datblygu, ac yn arbennig y ffordd y mae dealltwriaeth fodern o newid ymddygiad wedi cael ei ddefnyddio i adfywio cysyniad sydd eisoes yn bodoli.”
Ariennir gwaith ymchwil Martin Burgess gan WISERD, Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru.
Mae’ cynnig sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil pellach i ddichonoldeb cynllun peilot cyfrifon carbon personol yng Nghymru yn cael ei noddi gan Simon Thomas AC, Adam Price AC, David Melding AC a Mike Hedges AC.
Gellir gweld rhagor o fanylion am Gyfarfod Llawn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mercher 4 Hydref 2017 ar-lein yma.