Bydd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth yn cynnal hystings etholiadol ar nos Lun 5 Mehefin 2017.
Sara Gibson o’r BBC fydd yn cadeirio’r noson a fydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth ac yn dechrau am 7.30 yr hwyr.
Gwahoddwyd ymgeiswyr o’r prif bleidiau gwleidyddol sydd yn sefyll yng Ngheredigion i gyflwyno eu hachos ger bron yr etholwyr yn un o’r cyfarfodydd cyhoeddus olaf cyn diwrnod yr etholiad ar yr 8fed o Fehefin.
Dywedodd Elin Royles o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru: “Roedd hystings Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth wedi hen sefydlu fel digwyddiad o bwys yng nghyfnod etholiadau i’r Senedd a’r Cynulliad yma yng Ngheredigion.
“Rydyn ni’n falch iawn felly bod Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn parhau gyda’r traddodiad hwn. Rydym wedi dewis lleoliad canolog y Morlan ar gyfer y digwyddiad ac edrychwn ymlaen at yr un lefel o ddiddordeb a thrafodaethau gwleidyddol sydd wedi nodweddi hystings blaenorol a drefnwyd gan y Brifysgol.”
Mae croeso i bawb.
Yr ymgeiswyr sydd yn sefyll yng Ngheredigion yw Ruth Rosamond Davis, Plaid Geidwadol Cymru; Grenville Morgan Ham, Plaid Werdd Cymru; Tom Harrison, UKIP Cymru; Ben Morgan Lake, Plaid Cymru – The Party of Wales; Dinah Mulholland, Llafur Cymru; The Crazed Sir Dudley, The Official Monster Raving Loony Party; a Mark Frazer Williams, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
Lansiwyd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn swyddogol yn Ionawr 2017.
Mae’r Ganolfan yn adeiladu ar lwyddiant Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, ac yn dwyn ynghyd ddaearyddwyr, gwyddonwyr gwleidyddol, seicolegwyr a haneswyr o Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg, yn ogystal â gwyddonwyr cymdeithasol o adrannau perthnasol sydd â diddordeb yng Nghymru.
Mae hefyd yn chwarae rôl allweddol fel cangen Aberystwyth o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD).