Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn cynnig nifer o gyfleoedd i astudio materion cymdeithasol a gwleidyddol cyfoes, polisïau a sefydliadau yng Nghymru. Mae hefyd yn darparu hyfforddiant, a gweithdai a chyrsiau i feithrin galluoedd ar gyfer ymchwilwyr academaidd a gweithwyr proffesiynol yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.
Grŵp astudio i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac uwchraddedigion
Mae’r ganolfan yn cynnal grŵp astudio ffyniannus ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac uwchraddedigion sy’n cwrdd ar-lein bob yn ail ddydd Gwener (10am-12pm) i gymdeithasu, trafod erthyglau sy’n ymwneud â’n diddordebau ymchwil, a threulio amser yn ysgrifennu gyda’n gilydd. Rydym hefyd yn cynnal boreau coffi ar-lein bob yn ail wythnos i aelodau’r grŵp sy’n dysgu Cymraeg i ymarfer eu sgiliau iaith. Mae croeso i unrhyw ymchwilwyr uwchradd neu ymchwilwyr sy’n eu diffinio’u hunain fel rhai sydd ar ddechrau eu gyrfa y mae eu gwaith neu eu diddordebau ymchwil yn ymwneud â Chymru (rydym ni’n hynod o eangfrydig!).
I ymuno â ni, neu am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Dr Flossie Kingsbury ar: fck@aber.ac.uk.
Astudiaethau PhD
Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn gartref i nifer o uwchraddedigion sy’n ymchwilio ar gyfer traethodau hir sy’n ymwneud â themâu neu brosiectau ymchwil y Ganolfan, sy’n cael cyllid o ffynonellau sy’n cynnwys Partneriaeth Hyfforddi Doethurol Cymru’r ESRC, y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, ac ysgoloriaethau ABERDOC Prifysgol Aberystwyth.
Cyfleoedd am Gyllid PhD ar Hyn o Bryd: Gwahoddir ceisiadau am ysgoloriaethau 3 neu 4 blynedd (3+1) drwy Bartneriaethau Hyfforddi Doethurol Cymru’r ESRC naill ai mewn Daearyddiaeth Ddynol neu Wleidyddiaeth, ar bynciau sy’n ymwneud â gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Cymru; llywodraethu a chyfranogi; y gymdeithas sifil; iaith, diwylliant a hunaniaeth; a chysylltiadau byd-eang Cymru. Cliciwch am ragor o wybodaeth am gyfleoedd PhD mewn daearyddiaeth ddynol neu wleidyddiaeth.