Cyfle i leisio barn ar ddyfodol y Cynulliad Cenedlaethol

Cyfle i leisio barn ar ddyfodol y Cynulliad Cenedlaethol

Bydd cyfle i drigolion Ceredigion ddweud eu dweud am ddyfodol y Cynulliad Cenedlaethol mewn cyfarfod agored ar nos Iau, 15 Mawrth 2018 am 6 yr hwyr yng Nghanolfan Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth.

Cynhelir y cyfarfod, Creu Senedd i Gymru, ar y cyd gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru – WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’n un o gyfres o gyfarfodydd ar draws Cymru i ystyried yr ymgynghoriad ar ddiwygio’r Cynulliad sy’n cael eu cynnig er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni’i gyfrifoldebau yn fwy effeithiol a gwella llywodraethiant Cymru.

Bydd panel, dan arweiniad Llywydd y Cynulliad, Elin Jones AC yn amlinellu amryw o newidiadau sy’n cael eu hargymell o ran cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad; pa system bleidleisio ddylai gael ei defnyddio i ethol Aelodau Cynulliad a phwy ddylai gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad. Dilynir hyn gan sesiwn holi ac ateb.

Cadeirydd y noson fydd Dr Elin Royles, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Dywedodd:” Rydyn ni yng Nghanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn hynod o falch o fod yn cydweithio gyda Chomisiwn y Cynulliad ar y digwyddiad hwn.”

“Mae’r ymgynghoriad yn cynnig cyfle i bobl Cymru roi barn ar faterion sydd wedi bod yn heriol i’r Cynulliad ers ei ddyddiau cynnar, megis niferoedd Aelodau Cynulliad, a chamau eraill y gellid eu cymryd er mwyn cryfhau democratiaeth yng Nghymru i’r dyfodol.”

Mae mynediad i’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ac mae croeso cynnes i bawb. Gellir archebu tocyn o flaen llaw o:  www.seneddydyfodol.cymru/digwyddiadau

 

Dolenni cyswllt:
Creu Senedd i Gymru
www.seneddydyfodol.cymru/digwyddiadau

Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru
http://cwps.aber.ac.uk/cy/

Gwybodaeth Bellach:
Dr Elin Royles, Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth
01970 622690 / ear@aber.ac.uk
Arthur Dafis, Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth
01970 621763/07841979452 / aid@aber.ac.uk

Am Brifysgol Aberystwyth www.aber.ac.uk
Wedi’i sefydlu ym 1872, mae Aberystwyth yn brifysgol addysgu ac ymchwil blaenllaw. Fe’i enwyd yn Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd Addysgu yn y Times Sunday Times Good University Guide 2018. Yn Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2017, Aberystwyth oedd y gorau yng Nghymru ac un o’r pum prif brifysgol prif ffrwd yn y DU ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr. Nododd y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf yn 2014 fod 95% o’r gweithgaredd ymchwil a gyflwynwyd gan Aberystwyth o safon gydnabyddedig yn rhyngwladol neu’n uwch. Mae’r Brifysgol yn gymuned o tua 10,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff wedi ymrwymo i gyflwyno addysgu sy’n ysbrydoli, ymchwilio gyda rhagoriaeth sy’n effeithio, ymgysylltu â’r byd, gweithio mewn partneriaeth a buddsoddi yn ein dyfodol. Elusen gofrestredig Rhif 1145141.