Arweinydd Thema: Elin Royles (ear@aber.ac.uk)

Mae’r thema Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth yn ymdrin a’r berthynas rhwng iaith a hunaniaeth yng Nghymru, a’r safle canolog mae’r Gymraeg yn cymeryd ym mywyd cymdeithasol a gweidyddol Cymru. Gan ddwyn ynghyd safbwyntiau amlddisgyblaethol, mae’r thema yn archwilio cwestiynnau syn’n ymwneud a gwleidyddiaeth yr Iaith Cymraeg; datblygiad a gweithredu polisi a phlanio iaith; daearyddiaeth yr Iaith Cymraeg; a diwylliant a hunaniaeth y Gymraeg mewn addysg, dinasyddiaeth, a bywyd bob dydd yng Ngymru. I gydnabod Cymru mewn cyswllt ehangach, mae aelodau’r thema yn wiethredol mewn ymchwil cymdeithasau dwy-ieithog a gwleidyddiaeth gwledydd a ieithoedd lleafrifol mewn rhannau eraill o’r byd.

Mae’r thema yn cyfrannu at waith Rhwydwaith Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth WISERD 

Prosiectau cysylltiedig:

IMAJINEMecanweithiau Integreiddiol ar gyfer trafod ag Anghydraddoldebau Tiriogaethol a Chyfiawnder Lleoliadol yn Ewrop (2017-2022, EU Horizon 2020)

Addysg, Iaith a HunaniaethPecyn Gwaith WISERD/Civil Society 2.3 (2016-2019, ESRC)

Caiff rhwydwaith ymchwil Adfywio ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’i gydlynu gan ymchwilwyr o brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caeredin. Ei amcan yw i ystyried beth yw oblygiadau newidiadau cymdeithasol cyfoes i’n dealltwriaeth o sut dylid cynllunio a gweithredu ymdrechion adfywio iaith. Mae’r rhwydwaith yn dwyn ynghyd grŵp rhyngwladol a thraws-ddisgyblaethol o ymchwilwyr, sy’n cwmpasu’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol, ynghyd ag amryw o ymarferwyr blaenllaw ym maes polisi iaith.  Am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â gwaith y rhwydwaith gweler y cyfrif @_revitalise ar Twitter neu gweler gwefan y prosiect: http://revitalise.aber.ac.uk