{"id":11146,"date":"2022-09-23T12:25:00","date_gmt":"2022-09-23T11:25:00","guid":{"rendered":"https:\/\/cwps.aber.ac.uk\/gwobr-am-ymchwil-phd-ar-sefydliadu-cydraddoldebau\/"},"modified":"2024-09-24T12:07:29","modified_gmt":"2024-09-24T11:07:29","slug":"gwobr-am-ymchwil-phd-ar-sefydliadu-cydraddoldebau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwps.aber.ac.uk\/cy\/gwobr-am-ymchwil-phd-ar-sefydliadu-cydraddoldebau\/","title":{"rendered":"Gwobr am ymchwil PhD ar Sefydliadu Cydraddoldebau"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyfarnwyd Gwobr Goffa Audrey Jones i un o Gymdeithion Ymchwil \u00d4l-Ddoethurol Prifysgol Aberystwyth eleni. <\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Derbyniodd Dr Amy Sanders y wobr hon am ei hymchwil PhD, ar y teitl: Institutionalising Equalities? Exploring the Engagement of Equalities Organisations in the Welsh Third Sector-Government Partnership.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar sail ei gwobr, gwahoddwyd Dr Sanders i gyflwyno papur yng Nghynhadledd flynyddol Cynulliad Menywod Cymru, a elwid yn \u2018Don\u2019t Stay in Your Lane \u2013 Women\u2019s Research Route to Gender Friendly Wales\u2019. Cynhaliwyd y gynhadledd ar Fedi 17<sup>eg<\/sup> yng Nghwrt Insole yng Nghaerdydd Cyflwynodd Dr Sanders ei phapur <a href=\"https:\/\/pure.aber.ac.uk\/portal\/en\/activities\/exploring-equalities-strategies-in-policymaking-in-wales-and-considering-potential-developments-to-further-advance-equalities-for-women-and-girls(0e7ec0e6-ebdf-4dfb-b845-7aa799449881).html\">\u2018Exploring equality strategies in policy-making in Wales and considering potential developments to further advance equality for women and girls\u2019.<\/a><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Trefnir y gwobrau blynyddol gan Gynulliad Menywod Cymru, ar gyfer ysgolheictod academaidd sy\u2019n ceisio cynhyrchu deunydd empirig pwysig am brofiadau genethod a menywod.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma\u2019r hyn a ddwedir am y wobr:<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cY syniad sylfaenol yw helpu menywod i rannu canfyddiadau eu hymchwil a bod yn llwyfan er mwyn rhannu syniadau pwysig a allai lunio a llywio penderfyniadau ynghylch lob\u00efo ac ymgyrchu. Roedd Audrey yn ymwybodol bod llawer gormod o ganfyddiadau ymchwil yn aros mewn traethodau hir a thraethodau ymchwil gyda dim ond ychydig rai breintiedig yn cael eu gweld!\u201d<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd Audrey Jones (1929 \u2013 2014) yn un o sylfaenwyr Cynulliad Menywod Cymru yn 1984 ac yn Gyn-gadeirydd ac Ysgrifenyddes tan 2014. Ar \u00f4l ymddeol o swydd Dirprwy Bennaeth yn Ysgol Gyfun St Cyres ym Mhenarth, gweithiodd Audrey yn ddiflino dros achos hawliau, diogelwch a chydraddoldeb menywod o ran cyflog a chyfleoedd. Ei mab, Robert Jones, oedd yn cyflwyno\u2019r dystysgrif i Amy.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Amy \u201cYn digwydd bod, Audrey Jones oedd y dirprwy bennaeth yn fy ysgol. Roedd yn ymddeol yn union wrth i mi gyrraedd i\u2019r 6<sup>ed<\/sup> dosbarth. Dyna pam rwy\u2019n arbennig o falch o fod yn derbyn ei gwobr dros 30 mlynedd yn ddiweddarach. Rydw i wedi wynebu rhwystrau fel menyw aeddfed yn gwneud PhD, felly mae\u2019r math hwn o anogaeth wedi golygu llawer iawn i mi yn bersonol\u201d.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ymhlith derbynwyr eraill y wobr roedd Sara Cavill am ei gwaith ar iselder \u00f4l-enedigol, Catherine Phillips am ei hymchwil i normau rhywedd mewn cysylltiad \u00e2 dealltwriaeth pobl ifanc o berthnasoedd, Robin Andrews am ei harchwiliad o fonitro symptomau ar gyfer menywod sy\u2019n mynd trwy\u2019r menopos ac Anna Maria Sgueglia am ei dadansoddiad o fenywod ym maes cynllunio. <\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae rhagor o wybodaeth am y wobr ar gael yma : <a href=\"https:\/\/walesassemblyofwomen.co.uk\/awards.html\">https:\/\/walesassemblyofwomen.co.uk\/awards.html<\/a><\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity is-style-wide\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cysylltu<\/strong><\/h2>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dr Amy Sanders <a href=\"https:\/\/cwps.aber.ac.uk\/Users\/betha\/AppData\/Local\/Microsoft\/Windows\/INetCache\/Content.Outlook\/M7PM32HL\/ams48@aber.ac.uk\">ams48@aber.ac.uk<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyfarnwyd Gwobr Goffa Audrey Jones i un o Gymdeithion Ymchwil \u00d4l-Ddoethurol Prifysgol Aberystwyth eleni. Derbyniodd Dr Amy Sanders y wobr hon am ei hymchwil PhD, ar y teitl: Institutionalising Equalities? [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":11144,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"off","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","wds_primary_category":0,"footnotes":""},"categories":[7],"tags":[],"class_list":["post-11146","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwps.aber.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11146","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwps.aber.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwps.aber.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps.aber.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps.aber.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11146"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwps.aber.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11146\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":11147,"href":"https:\/\/cwps.aber.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11146\/revisions\/11147"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps.aber.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/11144"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwps.aber.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11146"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps.aber.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11146"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwps.aber.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11146"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}