Derbyniad yng Nghaerdydd i Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru / WISERD@Aberystwyth

Bydd canolfan ymchwil newydd Prifysgol Aberystwyth sy’n ymroddedig i ddatblygu gwell dealltwriaeth o wleidyddiaeth gyfoes a chymdeithas yng Nghymru yn cwblhau ei blwyddyn lansio gyda derbyniad ym Mae Caerdydd ddydd Iau 14 Rhagfyr.

Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru / WISERD@Aberystwyth (CWPS) yn dwyn ynghyd ddaearyddwyr, haneswyr modern, gwyddonwyr gwleidyddol a seicolegwyr i fynd i’r afael â rhai o’r materion cymdeithasol ac economaidd sy’n wynebu’r Gymru gyfoes.

Noddir y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd o 17.30 tan 19.30, gan Aelod Cynulliad Ceredigion a Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC.

Bydd ymchwilwyr blaenllaw o CWPS sy’n gweithio ar brif themau’r ganolfan; Llywodraethu, Cyfranogiad a Chymdeithas Sifil; Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth; a Chysylltiadau Byd-eang; yno i drafod eu gwaith.

Dywedodd yr Athro Michael Woods, Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru / WISERD@Aberystwyth: “Mae’r derbyniad yn y Pierhead yn gyfle gwych i ni ddweud wrth wleidyddion, gweision sifil ac arweinwyr cymdeithas sifil Caerdydd am yr ymchwil rhagorol sy’n cael ei wneud yn y Ganolfan, ac i ddangos bod Prifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at fywyd cymdeithasol a gwleidyddol Cymru.”

Ychwanegodd y Cyd-Gyfarwyddwr, Dr Anwen Elias: “Mae’r derbyniad yn cwblhau blwyddyn gyntaf brysur i CWPS ac rydym yn ddiolchgar i Elin Jones AC am ei chyfraniad i’r digwyddiad.”

Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru
Llywodraethu, Cyfranogiad a Chymdeithas Sifil
Dan arweiniad Dr Taulant Guma, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, nod y thema hon yw mynd i’r afael ag ymddangosiad Llywodraethu – y ffyrdd lluosog a lefelau (lleol, rhanbarthol, cenedlaethol, byd-eang) lle mae grym yn cael ei weithredu a’i arfer – fel syniad ac ymarfer yn lle’r dull mwy traddodiadol o lywodraethu awdurdodol dros genedl a’i phobl.

Cysylltiadau Byd-eang
Dan arweiniad Dr Lucy Taylor, Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol. Mae gwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru wedi eu cysylltu’n ddwfn â rhannau eraill o Brydain ac Ewrop a gweddill y byd. Amcan y thema Cysylltiadau Byd-eang yw archwilio’r cysylltiadau hyn, sut mae Cymru’n cymharu â gwledydd a rhanbarthau tebyg, sut y dylanwadir gan rwydweithiau a phrosesau trawswladol, a sut y mae Cymru wedi gwneud ei marc ar rannau eraill o’r byd.

Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth
Dan arweiniad Dr Elin Royles, Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, mae’r thema hon yn ymdrin â’r berthynas rhwng iaith a hunaniaeth yng Nghymru ac yn archwilio cwestiynau sy’n ymwneud â gwleidyddiaeth yr Iaith Gymraeg; datblygiad a gweithredu polisi a chynllunio iaith; daearyddiaeth yr Iaith Gymraeg; a diwylliant a hunaniaeth y Gymraeg mewn addysg, dinasyddiaeth a bywyd bob dydd yng Nghymru.

Mae ymgysylltu â’r cyhoedd yn elfen bwysig o genhadaeth CWPS ac mae wedi cynnal rhaglen eang o ddigwyddiadau cyhoeddus yn ystod 2017 i dynnu sylw at rhai o’r heriau sy’n wynebu Cymru heddiw.

Yn Ionawr cynhaliodd CPWS ddigwyddiad cyhoeddus yng Nghanolfan y Morlan Aberystwyth oedd yn ffocysu ar Brecsit a Chymru: Y Cwestiynau Allweddol, gan ystyried yr effeithiau posibl ar yr economi wledig, gweithwyr mudol a’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.

Cyflwynwyd y ddarlith Dydd Gŵyl Dewi gyntaf gan y Farwnes Eluned Morgan AC ym mis Mawrth, hefyd ar y thema Brexit.

Ym mis Mai lansiodd CWPS MA newydd mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ac ym mis Mehefin cynhaliwyd Hustings Etholiad Cyffredinolhynod boblogaidd y Ganolfan.

Ym mis Medi, adroddwyd ar astudiaeth sylweddol ar y Drenewydd gan brosiect GLOBAL-RURAL, a’r effeithiau ‘globaleiddio bob dydd’ ar y dref a’r cymunedau cyfagos mewn arddangosfa gyhoeddus.

Ac ym mis Medi hefyd cyd-drefnodd CWPS gynhadledd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar Polisïau Iaith yn y DU Wedi Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd 2017: Dylanwad datganoli. 

Ac yna, ym mis Tachwedd, fel rhan o Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol, Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), cynhaliwyd trafodaeth gyhoeddus Dychmygu dyfodol amgen i ganolbarth Cymrugyda’r Farwnes Eluned Morgan, AC; Dr Marc Welsh, Prifysgol Aberystwyth; Mr Barry Rees, Cyfarwyddwr Strategol: Dysgu a Phartneriaethau Cyngor Sir Ceredigion a Ben Lake AS.

Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn gysylltiedig â WISERD, Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dullia Cymru.