Ail-hysbysebiad Cyfleoedd Cyllido PhD i Ddechreuwyr yn 2018/19

https://www.aber.ac.uk/cy/interpol/study-with-us/postgraduate/phd/funding/manylionpellach-ysgoloriaethymchwilgydweithredolprosiectpenodol/

 Ysgoloriaeth Ymchwil DTP Cymru yr ESRC

Mae Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru yr ESRC (DTP Cymru), yn gwahodd ceisiadau am y canlynol:

Ysgoloriaeth Ymchwil DTP Cymru yr ESRC

Bwriad yr ysgoloriaeth yw cefnogi ymchwil a fydd yn datblygu astudiaeth gymharol o ymdrechion gan lywodraethau is-wladwriaethol i hyrwyddo integreiddio polisi, gan astudio enghreifftiau o weinyddiaethau ar draws y Deyrnas Unedig a hefyd trwy astudio detholiad o achosion a ystyrir fel enghreifftiau nodedig o integreiddio polisi yn y cyd-destun Ewropeaidd ehangach. O ganlyniad, bydd yn cloriannu’n feirniadol dulliau o integreiddio polisi a phrif-ffrydio polisi ar draws ystod o feysydd polisi cyhoeddus, a gallai hyn gynnwys cydraddoldeb, cynaliadwyedd amgylcheddol a chynaliadwyedd ieithyddol.

Mae’r ysgoloriaeth yn rhoi pwyslais ar hybu cyfnewid gwybodaeth ac yn sgil hynny bydd yn cynnwys cydweithio â swyddogion o Lywodraeth Cymru a swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Bydd hyn yn cynnwys cyd-drefnu dau weithdy lle bydd rhai o ganfyddiadau’r ymchwil yn cael eu cyflwyno. Diolchwn iddynt am eu cefnogaeth i’r prosiect hwn.

Dyddiad cau ceisiadau: 21 Mai 2018

Ceir manylion llawn, gan gynnwys sut i ymgeisio, cymhwyster, goruchwylio a thelerau ac amodau yma.

Partneriaeth Hyfforddi Doethuriaethol Cymru ESRC

Ysgoloriaeth EH Carr

Ysgoloriaethau PhD AberDoc

Partneriaeth Hyfforddi Doethurol AHRC 2017

Sut i Ymgeisio

https://www.aber.ac.uk/cy/interpol/study-with-us/postgraduate/phd/funding/