Licio her? Allwch chi dynnu 4 ffotograff sy’n adlewyrchu sut ydych chi’n meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth?
Mae ein prosiect yn defnyddio ffotograffiaeth i ymchwilio i sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalonia.
Rydyn ni’n trefnu sesiwn yn y Galeri, Caernarfon ar ddydd Sadwrn 30.9.23 rhwng 10.00 a 12.00 lle bydd ffotograffwyr yn rhannu eu 4 llun ar thema annibyniaeth, ac yn egluro pam eu bod wedi cymryd a dewis y lluniau mewn trafodaeth grŵp.
Bydd paned a chinio ar gael!
Hoffem hefyd wedyn gynnal cyfweliadau gyda’r unigolion, i drafod eu lluniau yn bellach a sut maen nhw’n meddwl ac yn teimlo am annibyniaeth.
Pwy all gymryd rhan?
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth gymryd rhan yn y sesiwn ond mae lle yn gyfyngedig.
Mae’r prosiect yn amhleidiol ac nid yw’n hyrwyddo safbwynt penodol ar annibyniaeth. Rydym yn croesawu cyfraniadau gan gyfranogwyr sydd â safbwyntiau gwahanol ar annibyniaeth, yn ogystal â rhai nad ydynt wedi meddwl am y mater o gwbl.
Beth ddylwn i wneud os oes gen i ddiddordeb?
Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am y prosiect ac arweiniad ymarferol ar ôl i chi gofrestru.
Bydd gofyn i chi uwchlwytho a rhannu eich lluniau efo ni erbyn 18.00 ddydd Mercher 27 Medi.
Beth fydd yn digwydd i fy ffotograffau?
Rydym yn cynllunio arddangosfeydd ffotograffiaeth yng Nghaerdydd a Barcelona, sef detholiad o’r lluniau a gynhyrchir yn ystod y prosiect – gan gynnwys rhai o’r lluniau o’r sesiwn hon.
Ariennir y prosiect gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac mae’n rhan o Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil ESRC/WISERD. Am ragor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Dr Elin Royles: ear@aber.ac.uk