Broceru Heddwch mewn Cymunedau? Sut i Oresgyn Rhaniadau Lleol

O 1 tan 7 Tachwedd – bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Hawlio Heddwch, ein Gŵyl Ymchwil eleni.

Fel rhan o raglen yr Ŵyl, mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru wedi trefnu’r digwyddiad trafod canlynol:

Broceru Heddwch mewn Cymunedau? Sut i Oresgyn Rhaniadau Lleol.

Dydd Sadwrn 4ed o Dachwedd

3.30 – 4.30yh

Y Drwm, Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, Aberystwyth

Gadewch i ni osgoi’r jargon a siarad â’n gilydd. Ymunwch ag arweinwyr cymunedol ac ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth mewn sgwrs sy’n ystyried mentrau i oresgyn rhaniadau a phegynnu mewn cymunedau a gwrth eithafiaeth. Sut gall hyn fod yn berthnasol i Ganolbarth Cymru? Gadewch i ni rannu beth sy’n gweithio a beth sydd ddim. Cawn gyfle i glywed wrth:

James Austin – Jo Cox Foundation, Cydlynydd, ‘Great Get Together’

Sarah Bowen – Swyddog Cydlyniant Cymunedol, Canolbarth a De-orllewin Cymru

Sunder Katwala – British Future

Nick Olsen – Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol, Caerdydd

Mewn sgwrs â’r Athro Michael Woods

Mae’r tocynnau am ddim ac mae croeso cynnes i bawb.

Cadw lle ar Eventbrite

 

Rydym wedi llunio detholiad o ddigwyddiadau ychwanegol a allai fod o ddiddordeb i chi. Mae’r tocynnau am ddim ac mae croeso cynnes i bawb.

Canolbarth Cymru: Arwain Dyfodol Heddychlon

Llwybrau tuag at Heddwch yn y 21ain

Ganrif (mynychu yn bersonol neu ar-lein)

Broceru Heddwch mewn Cymunedau? Sut i Oresgyn Rhaniadau Lleol.

Drywydd Heddwch yn Wcráin

Mae rhaglen yr wythnos i’w gweld yn ei chyfanrwydd ar wefan Hawlio Heddwch – Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth 2023.

Daw’r ysbrydiolaeth ar gyfer thema’r ŵyl eleni o ddeiseb heddwch hanesyddol a lansiwyd yn Aberystwyth ganrif yn ôl a’i llofnodi gan bron i 400,000 o fenywod o bob cwr o Gymru.

Wrth i ni nodi canmlwyddiant y ddeiseb, bydd ein Gŵyl yn dathlu’r unigolion, y grwpiau a’r syniadau sydd wedi lllunio heddwch yn y gorffennol ynghyd ag archwilio ffyrdd y gellir llunio dyfodol o heddwch.

Os mai un diwrnod yn unig sydd gennych chi i dreulio yn yr ŵyl,  bydden i’n awgrymu mynd i’r Llyfrgell Genedlaethol ar ddydd Sadwrn 4 Tachwedd lle bydd modd gweld y ddeiseb hanesyddol, taro heibio arddangosion ymchwil a ffair gwirfoddoli yn ogystal â mynychu trafodaethau allweddol, gweithdai creadigol a mwy. 

Date

Tach 04 2023
Expired!

Time

3:30 pm - 4:30 pm

More Info

cofrestrwch yma
cofrestrwch yma

0 thoughts on “Broceru Heddwch mewn Cymunedau? Sut i Oresgyn Rhaniadau Lleol