Hyrwyddo Ieithoedd Lleiafrifol: Cloriannu Gwaith Llywodraethau Rhanbarthol

Fel rhan o ddathliadau nodi 20 mlynedd o ddatganoli, bydd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â’r Cynulliad Cenedlaethol yn cyflwyno sesiwn ar ‘Hyrwyddo Ieithoedd Lleiafrifol: Cloriannu Gwaith Llywodraethau Rhanbarthol’, ddydd Sadwrn 28 Medi 2019 rhwng 11.00 a 12.30pm.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau i ddathlu a thrafod llwyddiannau’r ugain mlynedd diwethaf, yn ogystal â chanolbwyntio ar ddyfodol Cymru.

Penllanw’r dathliadau fydd gŵyl ddemocratiaeth, ‘GWLAD, Gŵyl Cymru’r Dyfodol’ yn y Senedd ym Mae Caerdydd rhwng 25-29 Medi 2019.

Dr Elin Royles o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth fydd yn cadeirio’r sesiwn a fydd yn cymharu a chloriannu strategaethau iaith llywodraethau rhanbarthol yn Ewrop a thu hwnt.

Ymhlith y siaradwyr mae Alun Davies AC, cyn Weinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes; Graham Fraser, cyn Gomisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada; Patxi Baztarrika, cyn Is-Weinidog Polisi Iaith, Llywodraeth Ymreolus Gwlad y Basg a’r Athro Colin Williams, Prifysgol Caerdydd.

Gyda sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol rhoddwyd cychwyn ar gyfnod newydd o weithgaredd polisi oedd â’r nod o hybu rhagolygon yr iaith Gymraeg mewn modd mwy cydlynol.

Ond, nid dim ond yng Nghymru rhoddwyd pwyslais ar yr ymdrech i hybu rhagolygon iaith leiafrifol.

Dilynwyd trywydd tebyg gan lywodraethau mewn mannau megis Catalonia, Gwlad y Basg, Galisia, yr Alban, Iwerddon, Canada a Seland Newydd. 

Amcan y sesiwn fydd cymharu profiadau diweddar o hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol yn rhai o’r lleoliadau hyn, ac yn benodol, cloriannu cyfraniad y strategaethau iaith swyddogol a fabwysiadwyd gan y llywodraethau perthnasol.

Archebwch eich tocyn sy’n rhad ac am ddim yma.

0 thoughts on “Hyrwyddo Ieithoedd Lleiafrifol: Cloriannu Gwaith Llywodraethau Rhanbarthol

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *