Mae’r Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru / WISERD@Aberystwyth yn anelu at ddefnyddio ymchwil ar wleidyddiaeth a chymdeithas Cymru, astudiethau cymharol o Gymru a gwletdydd a rhanbarthau eraill, a dadansoddiadau o gysylltiadau byd-eang Cymru, i wneud cyfraniadau arloesol sy’n rhyngwladol-sylweddol i ddamcaniaethau gwyddorau cymdeithasol, dadleuon a llenyddiaeth.
Mae ein ymchwilwedi trefnu o amgylch tri thema allweddol:
Cefnogir ein hymchwil gan brif gyrff ariannu ymchwil gan gynnwys
Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd a Rhaglen Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd.
Mae prosiectau pressennol a gynhalwyd gan y ganolfan yn cynnwys:

Mae GLOBAL-RURAL
yn brosiect 5 mlynedd mawr a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd i archwilio sut mae globaleiddio yn cael ei atgynhyrchu drwy a’r effeithiau ar gymdeithasau ac economïau gwledig. Mae’n golygu ymchwil yng Nghymru – gan gynnwys astudiaeth achos fanwl o’r Drenewydd – ac mewn nifer o wledydd eraill o gwmpas y byd.

Mae WISERD/Civil Society
yn rhaglen ymchwil rhyngddisgyblaethol a rhyng-sefydliadol a ariennir gan yr ESRC. Mae’r ymchwilwyr yn y Ganolfan ar gyfer Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn arwain pedwar pecyn gwaith yn y rhaglen ar ‘Heneiddio, Hamdden Difrifol a Cyfraniad yr Economi Hun’, ‘Addysg, Iaith a Hunaniaeth’, ‘Mudwyr, Lleiafrifoedd ac Ymrwymiad mewn Cymdeithas Sifil Lleol’, ac ‘Ailddiffinio Cymdeithas Sifil Lleol mewn Oes Cysylltedd Byd-eang.

Mae IMAJINE
yn brosiect ymchwil newydd o bwys a arweinir gan ymchwilwyr yn CWPS i ymchwilio mewn i batrymau o anghydraddoldeb tiriogaethol yn Ewrop, sut mae’r rhain yn cael eu hadlewyrchu mewn canfyddiadau’r cyhoedd, llif mudo a’r defnydd gwleidyddol o fudiadau hunanreolaeth ranbarthol, abe all polisi ei wneud i hyrwyddo ‘cyfiawnder lleoliadol ‘. Mae’r prosiect 5 mlynedd yn cael ei ariannu fel rhan o’r Rhaglen Horizon 2020 yr UE ac yn cynnwys cydweithio gyda 15 o bartneriaid ar draws Ewrop.
