Polisi Gwledig yng Nghymru ar ôl Brecsit
Dyma’r adroddiad ‘Ar Ôl Brecsit: 10 Cwestiwn Allweddol on ran Polisi Gwledig yng Nghymru’ a gynhyrchwyd gan y Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru / WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r Ganolfan yr Economi Wledig ym Mhrifysgol Newcastle.
Mae’r adroddiad yn seiliedig ar weithdy gydag arbenigwyr academaidd ar bolisi gwledig, datblygu gwledig ac amaethyddiaeth a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn gynharach eleni. Mae’n nodi’r heriau a’r cyfleoedd allweddol sy’n deillio o Brecsit ar gyfer amaethyddiaeth a chymunedau gwledig yng Nghymru, ac mae’n cynnig cwestiynau y dylid eu hystyried wrth ddatblygu polisi ar gyfer ar ôl Brecsit.
Mae’r adroddiad yn un o set o adroddiadau sy’n cwmpasu Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru a gydlynir gan y Ganolfan yr Economi Wledig ym Mhrifysgol Newcastle.
Gobeithiwn y bydd yr adroddiad yn ddefnyddiol ac yn llawn gwybodaeth. Mae copïau wedi’u hargraffu ar gael ar gais.
____________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________
Adroddiad Briffio Gwerthuso, Effaith a Chanlyniadau: Beth mae’n ei olygu i ni?
Rydym wedi cyhoeddi adroddiad briffio ar ‘Werthuso Effaith a Chanlyniadau: Beth mae’n ei olygu i ni?’ sy’n adrodd ar drafodaethau gweithdai a drefnwyd ar y cyd gan Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil y Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) sy’n cael ei hariannu gan yr ESRC, a Chyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru (CWVYS). Nod y ddau weithdy a gynhaliwyd fis Mai 2018 oedd ail-gychwyn trafodaeth genedlaethol yng Nghymru am werthuso, effaith a chanlyniadau gwaith ieuenctid yng Nghymru. Diolch yn fawr i’r rhai o’r sector a fynychodd y gweithdai am eu mewnbwn.
Adnoddau eraill:
Cyflwyniad yr Athro Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth Rhys Jones – Gwerthuso Gwell Better Evaluation
Cyflwyniad Bethia McNeil, Cyfarwyddwr Centre for Youth Impact Centre for Youth Impact May 2018 – CWVYS presentation
_____________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________
Taro’r cydbwysedd yn iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg
Cloriannu cynnwys Papur Gwyn Llywodraeth Cymru
Adroddiad ar seminar a gynhaliwyd yn Adeilad y Pierhead, Bae Cardydd 29 Medi 2017
Paratowyd gan Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles
Adroddiad Seminar Bil y Gymraeg
__________________________________________________________________________________________________________
Adfywio Iaith a Newid Cymdeithasol: Gwerthuso Strategaethau Iaith yng Nghymru a’r Alban
Ymchwil gan Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles
Papur briffio – Lewis a Royles – Medi 2016
________________________________________________________
Podlediadau a Fideos
Y Refferendwm UE – Beth sy’n digwydd nesaf?
Trafodaeth Podlediad gyda Dyfan Powel, Alistair Shepherd, Elin Royles ac Anna Rolewska ar ganlyniad y refferendwm UE ym Mhrydain ym Mehefin 2016
Edrych yn yn ôl ar 2016 Etholiad Cynulliad Cenedlaethol
Yn podlediad yma mae Dyfan Powel, Matthew Rees, Huw Lewis a Catrin Wyn Edwards yn trafod canlyniadau’r etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2016
Adlewyrchiadau ar Gymru ac Ewrop
Fideo o Ddarlith Flynyddol 2016 Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru 2016, gan Dr Hywel Ceri Jones CMG
Deinameg y Wladychiaeth ym Mhatagonia Gymreig
Lucy Taylor yn trafod ei hymchwil ar gysylltiadau rhwng gwladychwyr Cymreig ym Mhatagonia a cymunedau brodorol (Yn Saesneg).
Y Cymru ym Mhatagonia
Lucy Tayor yn trafod ei hymchwil mewn i berthynas gwladychwyr Cymreig ym Mhatagonia a’r boblogaeth frodorol. Indigenous (Yng Nghymraeg).
Patagonia 150.
Darlith gan Lucy Taylor am Wladychwyr Cymreig ym Mhatagonia cyflwynwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, 2015 (Yng Nghymraeg)
The GLOBAL-RURAL Project.
Michael Woods yn cyflwyno ei ymchwil ar globaleiddio ac ardaloedd gwledig.
_____________________________________________________________________________________________________________________________________
Adroddiad Briffio Polisi: Y Gymraeg fel grym Cymunedol ac Economaidd
Y Gymraeg a Pholisi Cyhoeddus – Adroddiad ar Seminar 3
_______________________________________________________________________________________________________________________________________
Adroddiad Briffio Polisi: Cryfhau cyfraniad addysgu i adfywiad y Gymraeg
YGymraegaPholisiCyhoeddus-AdroddiadTerfynolarSeminar2
____________________________________________________________________________________________________________________________________________________________
Adnoddau i Ysgolion
Mae dau becyn Bagloriaeth Cymru i athrawon wedi eu cynhyrchu yn Saesneg a Chymraeg. Mae’r pecynnau wedi’u trefnu o amgylch thema gwahanol, mae pob un yn archwilio safle Cymru o fewn Ewropa’r byd mewn ffurf bywiog a chyffrous. MAE POB Thema yn cynnwys amrywiath o adnoddau (cynllyn gwersi, cyflwyniadau, gweithdai, a gwethgareddau) wedi’i darparu gan feistri yn y maes. Mae’r pecynnau hefyd yn annog myfyrwyr i ddatblygu Sgiliau Alweddol (cyfathrebu, technoleg gwybodaeth, cymhwyso rhif, gweithio gydag eraill, datrys problemau, gwella’ch dysgu a’ch perfformiad eich hun) sy’n ganolog i gymhwyster Bagloriaeth Cymru. Pob pecyn yn cynnwys CD gyda’r holl ddeunyddiau yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Gellir lawrlwytho’r pecynnau yma:
Welsh Baccalaureate Pack 1 – English
Mae’r Pecyn Bagloriaeth Cymru 1 yn cynnwys adrannau ar:
- Deall Democratiaeth
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Yr Undeb Ewropeaidd
- Yr Iaith Gymraeg yn y Gymru gyfoes
Welsh Baccalaureate Pack 2 – English
Mae’r Pecyn Bagloriaeth Cymru 2 yn cynnwys adrannau ar:
- Cynrychiolaeth Wleidyddol
- Tlodi Byd-eang
- Cynaladwyedd
- Treftadaeth a Diwylliant Cymru