Barn pobl ifanc am Brexit

Flwyddyn wedi’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn trafod ymateb pobl ifanc yng Nghymru mewn cynhadledd yn Llundain ar ddydd Iau 22 Mehefin 2017.

Mae Dr Elin Royles a Dyfan Powel o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru WISERD wedi bod yn siarad gyda myfyrwyr chweched dosbarth ar draws Cymru ac yn casglu eu barn ar sut y mae Brexit yn debygol o effeithio arnynt.

Mae’r canlyniadau’n seiliedig ar gyfweliadau sydd wedi eu casglu ar gyfer prosiect ymchwil ar y cyd â Phrifysgol Caeredin, ‘Addysg, Iaith a Hunaniaeth’

Caiff y casgliadau eu cyflwyno yng nghynhadledd Young People and Brexit: One Year On sy’n cael ei threfnu gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru – WISERD.

Yn ogystal, bydd ffilm fer o ymatebion pobl ifanc a gasglwyd ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni yn cael ei dangos.

Yn ôl Dyfan Powel, Cydymaith Ymchwil ar y prosiect, mae llawer o bobl pobl ifanc yn anfodlon iawn na chawson nhw bleidleisio yn y refferendwm.

Dywedodd: “Mae’r ffaith fod llawer o bobl ifanc yn grac na chawson nhw’r cyfle i ddylanwadu ar ganlyniad pleidlais Brexit wedi golygu bod llawer ohonynt yn fwy penderfynol o ymwneud â’r broses ddemocrataidd yn y dyfodol. Efallai ein bod eisoes yn gweld hyn yn cael ei wireddu gyda’r cynnydd a welwyd yn nifer y bobl ifanc a bleidleisiodd yn yr Etholiad Cyffredinol yn ddiweddar.”

“Er bod nifer yn anghytuno â Brexit, mae pobl ifanc Cymru yn bragmataidd, ac yn awyddus i ymateb yn bositif i’r penderfyniad a gweld proses lle bydd pawb yn elwa.

Yn ôl Dr Elin Royles, mae’r canlyniad wedi bwydo i ymdeimlad o raniad rhwng y cenedlaethau, a’r farn fod gwahaniaethau syniadau rhwng pobl ifanc a chenedlaethau hŷn.

Dywedodd: “Dyw pobl ifanc ddim yn ymrwymo i ddadleuon gwrth-fewnfudo, a’u canfyddiad yw taw’r syniadau hynny yrrodd y bleidlais i ymadael ymysg pleidleiswyr hŷn a oedd o blaid Brexit. Maen nhw hefyd yn ofni y bydd agweddau o’r fath yn creu delwedd negyddol o’r Deyrnas Unedig yn rhyngwladol.”

Ychwanegodd: “Mae’r ymchwil yn codi’r cwestiwn a oes angen am fwy o addysg wleidyddol ar gyfer pobl ifanc i’w galluogi i fod yn fwy hyderus wrth ymwneud gyda’r broses wleidyddol, a hefyd a oes yna gyfle i fudiadau gwirfoddol i lenwi’r bwlch pan fydd cynlluniau Ewropeaidd megis Erasmus yn dod i ben?”

Yn dilyn y sesiwn gyda Dr Elin Royles a Dyfan Powel, bydd yr Athro Rhys Jones, Pennaeth Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, a Catrin James o’r Urdd yn trafod rôl y sector wirfoddol wrth lywio hunaniaethau pobl ifanc yn sgil Brexit.

Cynhelir y gynhadledd Young People and Brexit: One Year On yn swyddfeydd Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol yn Stryd All Saints, Llundain gan ddechrau am 10 y bore a gorffen am 5 y prynhawn ar ddydd Iau 22 Mehefin 2017.